
2012 Rhif 2656 (Cy.288) (C.106)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2012
Gwnaed 22 Hydref 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2 
Daw adrannau 1 i 9 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 i rym ar 16 Tachwedd 2012.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2012