
2012 Rhif 2571 (Cy.282)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Pysgod Môr (Ardaloedd Môr Penodedig) (Gwahardd Dull Pysgota) (Cymru) 2012
Gwnaed 10 Hydref 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Hydref 2012
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 5(1) ac (1B), 5A(1) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardaloedd Môr Penodedig) (Gwahardd Dull Pysgota) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 1 Tachwedd 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardaloedd môr penodedig” (“specified sea areas”) yw'r ardaloedd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred wedi ei roi mewn graddau, munudau a ffracsiynau degol o funud ar System Geodetig y Byd 1984;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac
 ystyr “offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod” (“bottom towed fishing gear”) yw unrhyw offer neu gyfarpar pysgota a all gael eu llusgo, eu tynnu neu eu symud ar hyd gwely'r môr gan gynnwys unrhyw lusgrwyd bysgota, treillrwyd drawst neu dreillrwyd estyllod, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
Gwaharddiad
3 

(1) Mae pysgota am bysgod môr o fewn yr ardaloedd môr penodedig gan ddefnyddio offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod drwy hyn wedi ei wahardd.
(2) Pan fo unrhyw gwch pysgota o fewn yr ardaloedd môr penodedig rhaid i'r holl offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod fod wedi eu stowio a'u diogelu y tu mewn i'r cwch.
Dirymu a Diwygiad Canlyniadol
4 

(1) Mae Is-ddeddf 21 (Gwahardd Offer Pysgota sy'n Llusgo'r Gwaelod) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru wedi ei dirymu o ran Cymru.
(2) Yn y Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 mae'r rhes sy'n ymwneud ag Is-ddeddf 21 wedi ei dileu.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
10 Hydref 2012
YR ATODLEN
YR ARDALOEDD MÔR PENODEDIG
Erthygl 2

Mae'r Ardaloedd Môr Penodedig fel a ganlyn:
(i) Yr ardal sydd wedi ei hamgáu rhwng y morlin adeg penllanw cymedrig y gorllanw a llinell a dynnir rhwng y cyfesurynnau a ganlyn ac y mae'r morlin hwnnw a'r llinell honno yn ffin iddi:
 52° 56.909'Gog 04° 34.055'Gor
 52° 59.858'Gog 04° 38.782'Gor
 52° 55.455'Gog 04° 45.891'Gor
 52° 52.928'Gog 04° 41.878'Gor
 52° 52.155'Gog 04° 43.359'Gor
 52° 51.563'Gog 04° 42.372'Gor
(ii) Yr ardal sydd wedi ei hamgáu gan linell a dynnir rhwng y cyfesurynnau a ganlyn ac y mae'r llinell honno yn ffin iddi:
 52° 59.942'Gog 04° 34.198'Gor
 53° 00.201'Gog 04° 34.289'Gor
 53° 00.456'Gog 04° 34.243'Gor
 53° 01.207'Gog 04° 34.035'Gor
 53° 02.002'Gog 04° 32.774'Gor
 53° 02.067'Gog 04° 32.579'Gor
 53° 02.213'Gog 04° 31.998'Gor
 53° 02.173'Gog 04° 31.697'Gor
 53° 01.777'Gog 04° 31.294'Gor
 53° 01.201'Gog 04° 31.158'Gor
 53° 00.108'Gog 04° 31.104'Gor
 52° 59.706'Gog 04° 31.551'Gor
 52° 59.521'Gog 04° 31.806'Gor
 52° 59.349'Gog 04° 32.425'Gor
 52° 59.343'Gog 04° 32.637'Gor
 52° 59.831'Gog 04° 34.045'Gor
 52° 59.942'Gog 04° 34.198'Gor
