
2012 Rhif 2499 (Cy.274) (C.98)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012
Gwnaed 1 Hydref 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 120(2) a (3) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod i rym ar 1 Hydref 2012.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw—
(a) Adran 56; a
(b) Atodlen 4.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.
1 Hydref 2012