
2012 Rhif 248 (Cy.41)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 1 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron CynulliadCenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2012
Yn dod i rym 24 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2012.
Diwygio'r Rheoliadau
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 5, yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2011—2012 sy'n cael ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i wella safonau dysgu neu arferion rheoli staff yn yr ysgol gyda'r bwriad o wella neu asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion mewn ysgol a gynhelir.”.

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2012