
2012 Rhif 2478 (Cy.270)
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012
Gwnaed 25 Medi 2012
Yn dod i rym 1 Hydref 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2012.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a) mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) i'w dehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
(b) mae “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i'w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Diwygiadau i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011
3 

(1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) ac ym mhenawdau erthyglau 5, 6, 8 a 9 ac Atodlen 2, hepgorer y geiriau “ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen”.
(3) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a ganlyn—“
ATODLEN 1
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau sy'n adenilladwy mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir
Erthyglau 4, 5(1) a 6(1)


1) Etholaeth 2) Cyfanswm adenilladwy mwyaf am wasanaethau 3) Cyfanswm adenilladwy mwyaf am dreuliau 4) Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy
Aberafan £4,730 £151,170 £155,900
Aberconwy £4,730 £105,358 £110,088
Alun a Glannau Dyfrdwy £4,730 £124,358 £129,088
Arfon £4,730 £107,069 £111,799
Blaenau Gwent £4,730 £161,967 £166,697
Bro Morgannwg £4,730 £192,425 £197,155
Brycheiniog a Sir Faesyfed £4,730 £177,443 £182,173
Caerffili £4,730 £160,424 £165,154
Canol Caerdydd £4,730 £132,301 £137,031
Castell-nedd £4,730 £169,780 £174,510
Ceredigion £4,730 £153,514 £158,244
Cwm Cynon £4,730 £121,686 £126,416
De Caerdydd a Phenarth £4,730 £183,660 £188,390
De Clwyd £4,730 £146,245 £150,975
Delyn £4,730 £129,994 £134,724
Dwyfor Meirionnydd £4,730 £152,209 £156,939
Dwyrain Abertawe £4,730 £142,418 £147,148
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr £4,730 £177,265 £181,995
Dwyrain Casnewydd £4,730 £130,047 £134,777
Dyffryn Clwyd £4,730 £117,780 £122,510
Gogledd Caerdydd £4,730 £165,133 £169,863
Gorllewin Abertawe £4,730 £136,341 £141,071
Gorllewin Caerdydd £4,730 £151,200 £155,930
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro £4,730 £161,498 £166,228
Gorllewin Casnewydd £4,730 £149,302 £154,032
Gorllewin Clwyd £4,730 £139,326 £144,056
Gŵyr £4,730 £148,616 £153,346
Islwyn £4,730 £140,055 £144,785
Llanelli £4,730 £162,368 £167,098
Merthyr Tudful a Rhymni £4,730 £156,183 £160,913
Mynwy £4,730 £184,172 £188,902
Ogwr £4,730 £126,506 £131,236
Pen-y-bont ar Ogwr £4,730 £131,194 £135,924
Pontypridd £4,730 £141,313 £152,043
Preseli Sir Benfro £4,730 £161,432 £166,162
Rhondda £4,730 £138,009 £142,739
Sir Drefaldwyn £4,730 £131,837 £136,567
Torfaen £4,730 £163,376 £168,106
Wrecsam £4,730 £109,924 £114,654
Ynys Môn £4,730 £139,547 £144,277
Cyfanswm £189,200 £5,880,445 £6,069,645”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
25 Medi 2012