
2012 Rhif 247 (Cy.40)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Diwydiant Cig Coch (Dynodi Cigyddwyr ac Allforwyr) (Cymru) 2012
Gwnaed 1 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2012
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 4(3) ac 17 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwydiant Cig Coch (Dynodi Cigyddwyr ac Allforwyr) (Cymru) 2012. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
Dynodi cigyddwyr ac allforwyr fel rhai sy'n atebol i dalu'r ardoll
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi cigyddwyr ac allforwyr yn rhai sy'n atebol i dalu ardoll.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2012