
2012 Rhif 2411 (Cy.261) (C.93)
IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012
Gwnaed 15 Medi 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2012
2 
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Hydref 2012—
(a) Adran 3 (dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);
(b) Adran 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol);
(c) Adran 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill);
(d) Adran 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd);
(e) Adran 9 (cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol);
(f) Adran 10 (camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol);
(g) Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h) Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(i) Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j) Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(k) Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(l) Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; ac
(m) Adran 48 (dyletswydd i adolygu'r Mesur).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2012