
2012 Rhif 2319 (Cy. 253)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2012
Gwnaed 6 Medi 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Medi 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108(2A), (3C), (3D), (5) a (6) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2012 a deuant i rym ar 5 Hydref 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Atodlen 2” (“Schedule 2”) yw Atodlen 2 i Orchymyn 1995;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
 ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
Datblygiad rhagnodedig
2 
At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o'r Ddeddf (digolledu pan fo gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl), mae datblygiad o'r disgrifiad canlynol yn rhagnodedig—
(a) datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd);
(b) datblygiad a ganiateir gan Ddosbarth A o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu newid adeilad diwydiannol neu warws);
(c) datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai);
(d) datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig); a
(e) datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).
Y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu caniatâd cynllunio yn ôl
3 
At ddibenion adran 108(3C)(b) o'r Ddeddf, y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu caniatâd cynllunio yn ôl yw drwy gyfarwyddyd yn unol ag erthyglau 4, 5 a (fel y bo'n briodol) 6 o Orchymyn 1995.
Hysbysiad o dynnu'n ôl-dull a chyfnod rhagnodedig
4 
At ddibenion adran 108(3C)(c) o'r Ddeddf—
(a) y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o dynnu'n ôl yw'r dull a ddisgrifir yn erthyglau 5 a (fel y bo'n briodol) 6 o Orchymyn 1995; ac
(b) y cyfnod rhagnodedig yw 24 mis.
Hysbysiad dirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau-dull a chyfnod rhagnodedig
5 
At ddibenion adran 108(3D)(c) o'r Ddeddf—
(a) y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad dirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau yw'r dull a ddisgrifir ym mharagraffau (7) a (8) o erthygl 27 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012; a
(b) y cyfnod rhagnodedig yw 24 mis.
Darpariaeth drosiannol
6 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dynnu caniatâd cynllunio yn ôl ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 2(d) pan oedd, cyn 18 Mehefin 2012, naill ai—
(a) hysbysiad o'r cyfarwyddyd yn tynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl wedi ei roi yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 1995; neu
(b) y cyfarwyddyd yn un y mae erthygl 6 o Orchymyn 1995 (hysbysiad a chadarnhad o gyfarwyddiadau erthygl 4(2)) yn gymwys iddo a bod y cyfarwyddyd eisoes wedi dod i rym.
Dirymu
7 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2012 wedi eu dirymu.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2012