
2012 Rhif 223 (Cy. 37) (C.7)
Y GYMRAEG, CYMRU
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2012
Gwnaed 30 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2012.
Cychwyn
2 
Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 5 Chwefror 2012—
(a) adran 148;
(b) adran 149.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2012