
2012 Rhif 2091 (Cy.241) (C.83)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012
Gwnaed 9 Awst 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 90(2) o Fesur Tai (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 3 Medi 2012; ac
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
Cychwyn Rhan 1 o Fesur Tai (Cymru) 2011 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) ar y dyddiad cychwyn
2 
Daw Rhan 1 o'r Mesur (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) i rym ar y dyddiad cychwyn.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2012