
2012 Rhif 205 (Cy.35)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBLIFANC, CYMRU
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2012
Gwnaed 30 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Ionawr 2012
Yn dod i rym 28 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 63(a) a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac adrannau 26(1), (2), 104(4), 104A (1) a (2) o Ddeddf Plant 1989 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
 ystyr “achos” (“a case”) yw achos a gaiff ei adolygu gan dîm ICiD yn unol â'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “y Rheoliadau Adolygu” (“the Review Regulations”) yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007;
 ystyr “teulu” (“a family”) yw teulu y mae wedi ei atgyfeirio gan awdurdod lleol i'w dîm integredig cymorth i deuluoedd ac yr hysbyswyd ei aelodau y byddant yn cael eu cefnogi gan y tîm;
 ystyr “tîm ICiD” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag adran 57 o Fesur 2010.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy.
Dyletswydd i adolygu achosion
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), rhaid i awdurdod lleol adolygu achos pob teulu yn unol â'r Rheoliadau hyn tra bo'r teulu yn cael ei gefnogi gan ei dîm ICiD.
(2) Pan fo tîm ICiD yn cael ei sefydlu ar y cyd gan ragor nag un awdurdod lleol, yna mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i'r awdurdod lleol lle y mae'r plentyn yn byw ac mae unrhyw drefniadau dros dro i'r plentyn fyw y tu allan i ardal yr awdurdod lleol i'w diystyru at y diben hwn.
(3) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys o ran achos teulu pan fo un neu ragor o'r plant yn y teulu yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu'n cael ei letya neu eu lletya gan yr awdurdod lleol ac y mae achos y plentyn hwnnw (neu'r plant hynny) yn ddarostyngedig i adolygiad o dan y Rheoliadau Adolygu.
Pryd y mae pob achos i'w adolygu
3 

(1) Rhaid i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad pryd y caiff y teulu ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm ICiD.
(2) Rhaid cynnal ail adolygiad o'r achos cyn pen tri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf ac ar ôl hynny rhaid cynnal adolygiadau dilynol cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag adolygu'r achos cyn pen yr amseroedd a bennir ym mharagraff (1) neu (2).
Sut y mae achosion i'w hadolygu
4 

(1) Rhaid i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig sut y mae achos pob teulu i'w adolygu a rhaid iddo drefnu bod hyn ar gael i'r personau a bennir yn rheoliad 6(1).
(2) Rhaid i awdurdod lleol y mae ei dîm ICiD yn cefnogi teulu wneud trefniadau i gyd-drefnu gweithrediad pob agwedd ar yr adolygiad.
(3) Rhaid i awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i gyd-drefnu pob agwedd ar yr adolygiad.
(4) Rhaid i'r materion i ymdrin â hwy ym mhob adolygiad achos, i'r graddau y mae'n ymarferol, gynnwys yr elfennau a bennir yn Atodlen 1.
(5) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal cynnal unrhyw adolygiad o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o dan unrhyw ddarpariaeth arall ar yr un pryd.
Ystyriaethau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol dalu sylw iddynt
5 
Yr ystyriaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, dalu sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 2.
Ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu
6 

(1) Cyn cynnal unrhyw adolygiad, rhaid i awdurdod lleol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, geisio barn ac ystyried barn—
(a) plant y teulu;
(b) y rhieni;
(c) unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn hwnnw;
(ch) aelodau'r tîm ICiD; a
(d) unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol;
yn enwedig, o ran y materion sydd i ymdrin â hwy yn ystod yr adolygiad.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gynnwys y personau y ceisir eu barn o dan baragraff (1) yn yr adolygiad, a phan fo'r awdurdod yn ystyried bod hynny'n briodol, eu gwahodd i fod yn bresennol mewn rhan neu'r cyfan ohono.
(3) Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, wneud canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i'r adolygiad yn hysbys i—
(a) plant y teulu;
(b) y rhieni;
(c) unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn hwnnw;
(ch) y tîm ICiD; ac
(d) unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried y dylai gael ei hysbysu.
Trefniadau i weithredu penderfyniadau sy'n codi o adolygiadau
7 
Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu unrhyw benderfyniad y mae'n ei gymryd o ganlyniad i adolygiad, p'un ai drwy wneud trefniadau ei hun neu drwy wneud trefniadau â bwrdd iechyd lleol neu ag unrhyw berson arall.
Cofnodi gwybodaeth adolygiad
8 
Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod ysgrifenedigo—
(a) gwybodaeth a geir at ddibenion adolygiad;
(b) unrhyw gyfarfod a drefnir gan yr awdurdod o flaen neu o ganlyniad i unrhyw agwedd ar adolygiad yr achos hwnnw; ac
(c) manylion canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adolygiad.
Dirymu ac addasu
9 

(1) Mae rheoliadau 1 i 8 o Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 wedi eu dirymu.
(2) Mae'r diwygiadau i'r Rheoliadau Adolygu a wnaed gan reoliad 9 o Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 yn gymwys i'r rhannau o Gymru sy'n weddill.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2012
YR ATODLENNI
ATODLEN 1
Materion i ymdrin â hwy mewn adolygiad achos
Rheoliad 4(4)
1 
Unrhyw newid yn amgylchiadau unrhyw blant neu oedolion yn y teulu.
2 
Effeithiolrwydd y cynllun i fynd i'r afael ag anghenion y plentyn, boed mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol.
3 
Effeithiolrwydd cynlluniau i fynd i'r afael ag anghenion oedolion, boed mewn perthynas ag anghenion iechyd neu anghenion gofal cymdeithasol.
4 
Barn yr oedolion a'r plant yn y teulu.
5 
P'un a ddylid addasu'r cynlluniau ar gyfer y plentyn (y plant) neu'r oedolyn (oedolion) i gefnogi ei gilydd yn well.
ATODLEN 2
Ystyriaethau y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt
Rheoliad 5
RHAN 1 Y Plentyn
1 
Unrhyw newid yn statws cyfreithiol y plentyn
2 
Unrhyw risgiau i'r plentyn
3 
P'un a yw'r trefniadau presennol ar gyfer gofal y plentyn yn foddhaol ai peidio.
4 
Cynnydd datblygol y plentyn a p'un a oes angen i'r plentyn fod yn destun unrhyw asesiad pellach mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol neu addysgol.
RHAN 2 Y Teulu
5 
Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
6 
Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i'r teulu sy'n berthnasol gan gynnwys rhoi camau gweithredu ar waith o adolygiadau blaenorol.
7 
Unrhyw newid yng ngallu'r rhieni i gyflawni rôl rhieni o ganlyniad i wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarparwyd neu o ganlyniad i ffactorau eraill.
8 
Unrhyw anawsterau a brofodd y teulu o bosibl wrth ymwneud â'r tîm ICiD.
9 
P'un a oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion yr oedolion a sut y gellir ei ddatrys.
10 
Yr angen i baratoi am ddod ag ymgysylltiad y tîm ICiD i ben.