
2012 Rhif 204 (Cy.34)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2012
Gwnaed 30 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Ionawr 2012
Yn dod i rym 28 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 58(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy .
Swyddogaethau cymorth i deuluoedd
2 
Mae'r swyddogaethau a nodir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi fel swyddogaethau cymorth i deuluoedd at ddibenion Rhan 3 o Fesur 2010.
Dirymu
3 
Mae'r canlynol wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010; a
(b) Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2012
YR ATODLEN
Rheoliad 2



Tabl 1
Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (fel y bo'n gymwys drwy weithrediad a.28A o'r Ddeddf honno) (Darparu Gwasanaethau Lles)a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) i blant sydd mewn angen (“in need”) at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac i'w teuluoedd, gan gynnwys cyflawni unrhyw asesiadau at y dibenion hynny.
a.17 ac Atodlen 2, Rhan 1 o Ddeddf Plant 1989 (Darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill) 
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) 

Tabl 2
Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a'r cyfarwyddiadau a wnaed odani (Trefniadau lles)a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Darparu Gwasanaethau Lles)a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)a.6 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Asesiadau: personau â chyfrifoldeb rhiant)a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) neu gyfleusterau i hybu lles personau dros 18 oed sy'n gymwys i gael gwasanaethau o dan yr adrannau hynny am eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, yn ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, yn rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu am eu bod yn rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny.

Tabl 3
Swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas â phlant
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu â thrin plant, sydd mewn angen at ddibenion a.17 o Ddeddf Plant 1989 ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau neu gyfleusterau.
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) 
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol) 
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau gyda chyrff eraill) 
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) 

Tabl 4
Swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas ag oedolion
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd ar gyfer personau, neu â thrin personau, sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, neu sy'n ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, sy'n rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu'n rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau, cyfleusterau neu driniaeth.
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) 
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol) 
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau â chyrff eraill) 
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) 
