
2012 Rhif 193 (Cy.31) (C.6)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012
Gwnaed 25 Ionawr 2012
Yn dod i rym 31 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 240(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Enwi a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2012
2 
Daw darpariaethau canlynol Deddf Lleoliaeth 2011 i rym ar 31 Ionawr 2012—
(a) adrannau 38 i 43 (atebolrwydd o ran cyflogau);
(b) adran 69 (ardrethu annomestig; rhyddhad yn ôl disgresiwn).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.
25 Ionawr 2012