
2012 Rhif 191 (Cy.30) (C.5)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012
Gwnaed 26 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw ardal ddaearyddol o Gymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
 ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Cychwyn ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud
2 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 1, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 28 Chwefror 2012
3 

(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol—
(a) Caerdydd; a
(b) Bro Morgannwg.
(2) Daw'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 2 i rym ar 28 Chwefror 2012.
Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 31 Mawrth 2012
4 

(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol—
(a) Sir Gaerfyrddin;
(b) Ceredigion;
(c) Sir Benfro; ac
(ch) Powys.
(2) Daw'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 2 i rym ar 31 Mawrth 2012.
Cychwyn ar 31 Ionawr 2012
5 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.
(2) Daw adran 12 o Fesur 2010 i rym ar 31 Ionawr 2012.
Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2012
ATODLEN 1
Erthygl 2(2)
1 
Adran 58(2) (swyddogaethau cymorth i deuluoedd);
2 
Adran 60(1) (personau rhagnodedig);
3 
Adran 62(2) (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
4 
Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd).
ATODLEN 2
Erthyglau 3(2) a 4(2)

Yr holl ddarpariaethau yn Rhan 3 o Fesur 2010 sydd ar ôl, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio paragraffau (b), (c) a (d) o adran 58(6).
