
2012 Rhif 1905 (Cy.232)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 18 Gorffennaf 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Gorffennaf 2012
Yn dod i rym 1 Medi 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8), 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2 
Mae'r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2, yn y man priodol, mewnosoder —“
 mae i “gorchymyn gofal” yr ystyr a roddir i “care order” yn adran 105(1) o Ddeddf 1989;”.
4 
Yn rheoliad 7 —
(a) cyn “Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu”, mewnosoder “(1)”;
(b) ar ôl “o ran mabwysiadu” mewnosoder “er mwyn sicrhau bod y panel yn cael ei drefnu'n effeithiol ac yn gweithredu'n effeithlon.”;
(c) hepgorer “a rhaid i'r asiantaeth adolygu'r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fydd yn briodol, eu diwygio.”; a
(d) mewnosoder fel is-baragraff newydd “(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu adolygu'r cyfarwyddiadau yn rheoliad 7(1) yn gyson a'u diwygio pan fo hynny'n briodol.”.
5 
Mewnosoder ar ôl rheoliad 8 —“
8A 
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod y paneli mabwysiadu'n cael eu cynghori'n gywir gan berson sydd wedi ymgymhwyso'n briodol mewn perthynas â mabwysiadau ag iddynt elfen dramor os oes achos o'r fath yn cael ei ystyried.”.
6 
Yn rheoliad 17 —
(a) yn y pennawd, hepgorer “ar gyfer y panel mabwysiadu”,
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Mewn achos—
(a) lle y mae'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol ac yn ystyried a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, a
(b) lle y mae naill ai paragraff (2A) neu (2B) yn gymwys,
ni chaiff yr asiantaeth fabwysiadu gyfeirio'r achos at y panel mabwysiadu.
(2A) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fo'r plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan yr asiantaeth fabwysiadu neu'n cael llety gan yr awdurdod lleol;
(b) pan na fo unrhyw asiantaeth fabwysiadu wedi ei hawdurdodi i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, ac
(c) pan na fo gan y plentyn riant na gwarcheidwad, neu fod yr asiantaeth yn ystyried bod yr amodau yn adran 31(2) o Ddeddf 1989 wedi eu bodloni o ran y plentyn.
(2B) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fo cais wedi ei wneud, a heb ei benderfynu, y gellid gwneud gorchymyn gofal yn ei gylch o ran y plentyn, neu
(b) pan fo'r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal ac na fo'r asiantaeth fabwysiadu wedi ei hawdurdodi i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(2C) Mewn achos nad yw'n dod o dan baragraff (2), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn (2D) at y panel mabwysiadu.
(2D) At ddibenion paragraff (2C) a rheoliad 19(1)(A) yr wybodaeth a'r adroddiadau yw —
(i) yr adroddiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 17(1),
(ii)  yr adroddiad ysgrifenedig ar gyflwr iechyd y plentyn y cyfeirir ato yn rheoliad 15(2)(b), oni bai bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi derbyn cyngor gan y cynghorydd meddygol yn nodi nad oes angen adroddiad o'r fath, a
(iii)  yr wybodaeth am iechyd rhieni naturiol y plentyn.”.
7 
Yn rheoliad 19 —
(a) ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Mewn unrhyw achos sy'n dod o dan reoliad 17(2C)”, a
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder —“
(1A) Mewn unrhyw achos sy'n dod o dan reoliad 17(2) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D), ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, wrth ddod i benderfyniad ynghylch a ddylai'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu”.
Dirymu
8 
Mae rheoliad 9 o Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 wedi ei ddirymu.
Darpariaeth drosiannol
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —
(a) pan fo asiantaeth fabwysiadu wedi cyfeirio achos at y panel mabwysiadu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a
(b) pan fo'r achos yn dod o fewn rheoliad 17(2) o'r Prif Reoliadau.
(2) Mewn achos lle y mae'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D) o'r Prif Reoliadau wedi eu hanfon at y panel mabwysiadu ond bod y panel mabwysiadu heb gyfarfod i ystyried yr achos cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dynnu'r wybodaeth a'r adroddiadau yn ôl oddi wrth y panel a mynd ati i wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19(1A) o'r Prif Reoliadau.
(3) Mewn achos lle y mae'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D) o'r Prif Reoliadau wedi eu hanfon at y panel mabwysiadu a bod y panel wedi cyfarfod i ystyried yr achos cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a'i fod —
(a) wedi penderfynu pa argymhelliad i'w wneud ond heb gyfleu'r argymhelliad hwnnw i'r asiantaeth fabwysiadu, neu
(b) yn aros i gael rhagor o wybodaeth oddi wrth yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 18(2)(b) o'r Prif Reoliadau, neu gyngor cyfreithiol yn unol â rheoliad 18(2)(c) o'r Prif Reoliadau,
rhaid i'r panel mabwysiadu fynd ati i wneud ei argymhelliad yn unol â rheoliad 18 o'r Prif Reoliadau, a rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwnnw yn unol â rheoliad 19(1) o'r Prif Reoliadau, fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2012