
2012 Rhif 1819 (Cy. 228)
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012
Gwnaed 10 Gorffennaf 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru a chan arfer y pwerau a roddir gan adrannau 30 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a pharagraff 15 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â pharagraff 15(5) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

Ymgynghorwyd â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, ac y mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymreig y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol ag adran 44 o Ddeddf y Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012, a deuant i rym ar y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y'u gwnaed.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Atodlen 1” (“Schedule 1”) yw Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
 ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a roddir o dan baragraff 11 o Atodlen 1; ac
 ystyr “penderfyniad cydsynio” (“consent decision”) yw penderfyniad mewn cysylltiad â chydsynio, ar gais o dan baragraff 6 o Atodlen 1.
Hawl i apelio yn erbyn dynodiad
3 

(1) Caiff perchennog y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff 8(1) o Atodlen 1 apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y dynodiad.
(2) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau neu ddiddymu'r dynodiad.
Hawl i apelio yn erbyn penderfyniad ar gais i addasu, tynnu ymaith neu amnewid
4 

(1) Caiff perchennog, y rhoddir iddo hysbysiad o benderfyniad cydsynio, apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniad.
(2) At ddibenion paragraff (1), os nad yw awdurdod cyfrifol, ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hysbysu, wedi rhoi i berchennog hysbysiad o benderfyniad cydsynio a wnaed gan yr awdurdod, rhagdybir bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi i'r perchennog, ar y diwrnod hwnnw, hysbysiad, sy'n gwrthod cydsynio.
(3) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau'r penderfyniad cydsynio neu ei amnewid.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod hysbysu” (“notice period”) yw'r cyfnod o 2 fis sy'n dechrau gyda'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo awdurdod cyfrifol yn cael cais am gydsyniad o dan baragraff 6 o Atodlen 1.
Hawl i apelio yn erbyn gwrthodiad i ddiddymu dynodiad
5 

(1) Caiff perchennog, y rhoddir iddo hysbysiad bod cais wedi ei wrthod, apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gwrthodiad i ddiddymu'r dynodiad.
(2) At ddibenion paragraff (1), os nad yw awdurdod cyfrifol, ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hysbysu, wedi rhoi i'r perchennog hysbysiad o benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod ynglŷn â chais, rhagdybir bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi i'r perchennog, ar y diwrnod hwnnw, hysbysiad sy'n gwrthod y cais.
(3) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau'r gwrthodiad neu ddiddymu'r dynodiad.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cais” (“application”) yw cais o dan baragraff 9 o Atodlen 1; ac
 ystyr “cyfnod hysbysu” (“notice period”) yw'r cyfnod o 2 fis sy'n dechrau gyda'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo awdurdod cyfrifol yn cael cais.
Hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi
6 

(1) Caiff person, y rhoddir iddo hysbysiad gorfodi, apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—
(a) cadarnhau'r hysbysiad gorfodi; neu
(b) penderfynu bod yr hysbysiad yn peidio â chael effaith.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2012