
2012 Rhif 1712 (Cy.222)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 30 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Gorffennaf 2012
Yn dod i rym 1 Ionawr 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32(2) a (3), 34(1) a 66(1) o Ddeddf Plant 2004, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006.
Diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniadau o “adroddiad trosolwg” (“overview report”) ac “adolygiad achos difrifol” (“serious case review”);
(b) mewnosoder y canlynol yn y rhestr o ddiffiniadau yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw naill ai adolygiad ymarfer plant cryno fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4A(3) neu adolygiad ymarfer plant estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4A(4);
 ystyr “cofrestr amddiffyn plant” (“child protection register”) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy'n cynnwys enwau plant sy'n destun cynllun amddiffyn plant o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed arwyddocaol ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;
 ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw cynllun ysgrifenedig y mae'r Bwrdd yn ei lunio ar yr un pryd â'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant, gan fanylu ar y camau sydd i'w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant;
 ystyr “digwyddiad dysgu amlasiantaethol” (“multi-agency learning event”) yw digwyddiad sy'n ffurfio rhan o'r broses adolygu ymarfer plant ac y mae'r Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, ac unrhyw gyrff neu bobl eraill y mae Cadeirydd y Bwrdd yn eu hystyried yn berthnasol ac sy'n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad, er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol;
 ystyr “fforwm proffesiynol amlasiantaethol” (“multi-agency professional forum”) yw fforwm a drefnir ac a hwylusir gan y Bwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bobl eraill y mae Cadeirydd y Bwrdd yn eu hystyried yn berthnasol, er mwyn dysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau a gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant yn y dyfodol;
 ystyr “plentyn sy'n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989;
 ystyr “yn ysgrifenedig” (“in writing”) yw ar ffurf electronig neu mewn llawysgrif.”
(2) Yn rheoliad 3(1)(d) o'r Prif Reoliadau (Swyddogaethau Bwrdd o ran ei amcan), yn lle'r geiriau “adolygiadau achos difrifol” rhodder “adolygiadau ymarfer plant”.
Dirymu rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau a mewnosod rheoliadau 4A a 4B
3 
Mae rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau wedi ei ddiddymu ac yn ei le rhodder y rheoliadau a ganlyn—“
Adolygiadau ymarfer plant
4A 

(1) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiadau ymarfer plant yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Diben adolygiad ymarfer plant yw canfod unrhyw gamau y gall partneriaid y Bwrdd neu gyrff eraill eu cymryd i wella ymarfer amddiffyn plant amlasiantaethol.
(3) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer plant cryno yn unrhyw un o'r achosion canlynol os bydd yn wybyddus bod plentyn, o fewn ardal y Bwrdd, yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os amheuir hynny, a bod y plentyn—
(a) 
(i) wedi marw; neu
(ii) wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl; neu
(iii) wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad; a,
(b) nad oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—
(i) dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii); neu
(ii) pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004 neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd ac i'w ddatblygiad.
(4) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer plant estynedig yn unrhyw un o'r achosion canlynol os bydd yn wybyddus bod plentyn, o fewn ardal y Bwrdd, yn cael ei gam-drin, neu os amheuir hynny, a bod y plentyn—
(a) 
(i) wedi marw; neu
(ii) wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl; neu
(iii) wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad; a,
(b) bod y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu ei fod yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—
(i) dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii); neu
(ii) pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004 neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd ac i'w ddatblygiad.
(5) Wrth gynnal adolygiad ymarfer plant, rhaid i'r Bwrdd—
(a) gofyn i bob corff cynrychioliadol roi gwybodaeth yn ysgrifenedig i'r Bwrdd am ei ymwneud â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad;
(b) sicrhau y ceir safbwynt y plentyn sy'n destun yr adolygiad a bod safbwynt y plentyn yn cyfrannu at y broses adolygu ymarfer plant, i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol i amgylchiadau'r achos;
(c) sicrhau y ceir safbwyntiau aelodau teulu'r plentyn sy'n destun yr adolygiad a bod y safbwyntiau hyn yn cyfrannu at y broses adolygu ymarfer plant, i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol i amgylchiadau'r achos;
(ch) cynnal digwyddiad dysgu amlasiantaethol ar ôl derbyn yr wybodaeth ysgrifenedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a);
(d) yn achos adolygiad ymarfer plant cryno, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (ch) yn cael ei drefnu a'i hwyluso gan un adolygydd a benodir gan y Bwrdd;
(dd) yn achos adolygiad ymarfer plant estynedig, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (ch) yn cael ei drefnu a'i hwyluso gan ddau adolygydd a benodir gan y Bwrdd;
(e) sicrhau bod unrhyw adolygydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) neu (dd) yn annibynnol ar unrhyw ymwneud uniongyrchol â gwaith achos neu reoli achosion mewn cysylltiad â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad;
(f) llunio adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant sy'n argymell camau i'w cymryd ar ôl y digwyddiad dysgu amlasiantaethol;
(ff) sicrhau nad yw'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant yn datgelu pwy yw'r plentyn sy'n destun yr adolygiad na theulu'r plentyn na lle y maent;
(g) llunio cynllun gweithredu gan fanylu ar y camau sydd i'w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol i weithredu argymhellion yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant;
(ng) rhoi'r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant a'r cynllun gweithredu i Weinidogion Cymru;
(h) trefnu bod yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant ar gael i'r cyhoedd;
(i) cynnal adolygiadau cynnydd cyfnodol ar roi'r cynllun gweithredu ar waith;
(j) rhoi i Weinidogion Cymru adroddiad ysgrifenedig ar ôl unrhyw adolygiad cynnydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (i), gan adrodd ar y cynnydd o ran rhoi'r cynllun gweithredu ar waith a'r effaith ar bolisi ac ymarfer amddiffyn plant yng Nghymru;
(l) rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru, drwy arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn.
Fforymau proffesiynol amlasiantaethol
4B 
Rhaid i'r Bwrdd drefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol.”
Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Gweinidogion Cymru
30 Mehefin 2012