
2012 Rhif 170 (Cy.29)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 1(1) a (4) o Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 2011 i rym.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y geiriau “neu Loegr” yn y diffiniad o “gorchymyn disgyblu”.
(b) mewnosoder, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “gorchymyn gwahardd” (“prohibition order”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn Lloegr yw gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002;”.
(c) hepgorer y geiriau “neu Loegr” yn y diffiniad o “achos disgyblu”.
(ch) rhodder y canlynol yn lle'r diffiniad o “tramgwydd perthnasol”—“
 mae i “tramgwydd perthnasol”, o ran Cymru, yr un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998, ac o ran Lloegr mae iddo'r un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn adran 141B(4) o Ddeddf Addysg 2002;”.
(3) Yn rheoliad 9(1)(b) hepgorer y geiriau “neu'r Ysgrifennydd Gwladol” ar yr achlysur cyntaf y maent yn ymddangos, ac ychwaneger y canlynol ar ôl y geiriau “o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002”—“neu fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002”.
(4) Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 25—“
Gorchmynion gwahardd
25 
Bydd gorchymyn gwahardd yn gymwys o ran Cymru fel y mae'n gymwys o ran Lloegr.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012