
2012 Rhif 1692 (Cy.218)
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012
Gwnaed 28 Mehefin 2012
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2012
Yn dod i rym 20 Gorffennaf 2012
Mae Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 30 ac 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 , a pharagraff 16 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru.
Hysbysiadau sy'n ymwneud â chaniatâd i addasu, tynnu ymaith neu amnewid adeileddau neu nodweddion dynodedig
2 

(1) Mae'n rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (hysbysiadau a roddir mewn modd ar wahân i gais gan y perchennog) nodi'r dyddiad y bwriedir y bydd yr hysbysiad yn cael effaith. Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i hwn fod yn ddyddiad 28 o ddiwrnodau fan leiaf wedi dyddiad dyroddi'r hysbysiad.
(2) Caiff y dyddiad y mae'n ofynnol ei bennu dan baragraff (1) fod yn gynt na 28 o ddiwrnodau os yw'r awdurdod cyfrifol yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2012