
2012 Rhif 169 (Cy.28)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5) a (7) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 2011 i rym.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(2)(a), yn lle'r geiriau “the Education Act 2002 or the person is barred”, rhodder “the Education Act 2002, the person is barred”, ac ar ddiwedd y rheoliad ychwaneger y geiriau a ganlyn—“or the person’s employment as a teacher is prohibited under the terms of a prohibition order made by the Secretary of State under section 141B of the Education Act 2002.”.
(3) Yn rheoliad 10(5)(a), yn lle'r geiriau “the Education Act 2002 or the person is barred”, rhodder “the Education Act 2002, the person is barred”, ac ar ddiwedd y rheoliad ychwaneger y geiriau a ganlyn—“or the person’s employment as a teacher is prohibited under the terms of a prohibition order made by the Secretary of State under section 141B of the Education Act 2002.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012