
2012 Rhif 1689 (Cy.217)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
PYSGOD CREGYN
Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012
Gwnaed 27 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2012
Yn dod i rym 18 Medi 2012

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) (“y Grantî”) am Orchymyn sy'n rhoi yr hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (“y Ddeddf”).
Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i'r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Parodd y Grantî fod copïau printiedig o'r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a'u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn gael ei wneud.
Mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o'r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012, a daw i rym ar 18 Medi 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw'r ardal o Fae Abertawe a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw'r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o'r math Mytilus edulis;
 ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;
 ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Druslyn House, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3HJ, neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i'r bysgodfa am y tro; ac
 ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Yr hawl i bysgodfa
3 
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar 18 Medi 2012.
Marcio terfynau'r Ardal
4 
Rhaid i'r Grantî farcio terfynau'r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
Manylion daliadau
5 

(1) Rhaid i'r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion daliadau—
(a) ar gyfer y cyfnod o 18 Medi 2012 i 31 Mawrth 2013, ar neu cyn 31 Gorffennaf 2013; ac ar ôl hynny
(b) ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth, ar neu cyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben.
(2) Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—
(a) cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision a heuir yn y bysgodfa;
(b) lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision ohoni;
(c) cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision a gymerir o'r bysgodfa;
(d) lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision ohono; ac
(e) pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.
Cyfrifon o'r incwm a'r gwariant, gwybodaeth arall ac archwilio
6 

(1) Rhaid i'r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i'r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i'r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio'r Ardal a'r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i'r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.
Hawliau'r Goron
7 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n awdurdodi'r Grantî i gymryd, defnyddio neu ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely'r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy'n eiddo i'w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.
Hawliau ymgymerwyr statudol
8 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
Aseinio
9 
Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio'r hawl hwn i bysgodfa, na'i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2012
YR ATODLEN
DISGRIFIAD O'R ARDAL
Erthygl 2

Y rhan honno o wely'r môr ym Mae Abertawe sy'n ymestyn i tua 70 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy'n cysylltu'r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 4 yn y tabl isod.

Pwynt Lledred Hydred
1 51° 35. 27' Go 3° 58. 50' Gn
2 51° 35. 20' Go 3° 58. 20' Gn
3 51° 34. 45' Go 3° 58. 90' Gn
4 51° 34. 40' Go 3° 58. 50' Gn
