
2012 Rhif 168 (Cy.27)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 8(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011 i rym.
Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 hepgorer y geiriau “as they have effect in relation to the General Teaching Council for England”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 January 2012