
2012 Rhif 167 (Cy.26)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, gan eu bod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried eu hamcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir yn y Gorchymyn hwn ac, yn unol ag adran 7(2), wedi iddynt gyflawni pa bynnag ymgynghori yr ymddengys iddynt ei fod yn briodol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012.
(2) Daw erthygl 2(2)(b) ac (c) o'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011 i rym, a daw erthygl 2(2)(a) i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o'r Ddeddf honno i rym.
Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan II o'r Atodlen,
(a) ar ôl paragraff 22A, mewnosoder y canlynol—“
22B 
Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002.”.
(b) ym mharagraff 23A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
(c) ym mharagraff 23B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012