
2012 Rhif 1553 (Cy.206) (C.58)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2012
Gwnaed 16 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 44(3), (5) a (10)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
Y diwrnod penodedig
2 
19 Mehefin 2012 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—
(a) adran 22 (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
(b) adran 23 (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
(c) adran 24 (estyn y pŵer i wneud taliadau mewn arian parod),
(d) adran 25 (seibiannau oddi wrth ofalu am blant anabl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac
(e) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymu) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu darpariaethau canlynol Deddf 1989—
(i) y geiriau “in exceptional circumstances” yn adran 17(6),
(ii) is-adrannau (4) i (7) o adran 23B, a
(iii) yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(1), y gair “and” yn union cyn paragraff (b).
Darpariaeth drosiannol
3 
Er bod adran 22 o'r Ddeddf yn dod i rym yn unol ag erthygl 2(a), nid yw adran 23CA(1) o Ddeddf 1989 yn gymwys ond pan fo'r hysbysiad y cyfeirir ato yn adran 23CA(1)(c) yn cael ei roi ar neu ar ôl 19 Mehefin 2012.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2012