
2012 Rhif 1520 (Cy.202)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) 2012
Gwnaed 13 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Mehefin 2012
Yn dod i rym 1 Awst 2012

Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn perthynas â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Awst 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
13 Mehefin 2012
YR ATODLEN
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig.
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gyfan ac eithrio—
(a) y darn hwnnw o'r A465 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth bwynt sydd tua 15 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4276 Merthyr Road, i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrth bwynt sydd tua 1809 o fetrau i'r dwyrain o ffordd ymadael tua'r gorllewin Glyn-nedd;
(b) y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Dinas a Sir Caerdydd wrth bwynt sydd tua 237 o fetrau i'r gogledd o ganol cylchfan yr A470/A4054/B4262 Ynys Bridge, Ffynnon Taf, i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth bwynt sydd tua 220 o fetrau i'r de o drosbont Goitre-Coed Road.
