
2012 Rhif 1428 (Cy.178)
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012
Gwnaed 29 Mai 2012
Yn dod i rym 6 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 49(4) a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(a) o'r Mesur, a'i gymeradwyo gan benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 6 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion Rhannau 2 a 3 o'r Mesur
3 
Nid yw gwasanaethau a thriniaeth sydd yn cael eu rhoi ar gael fel gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol mewn ardal awdurdod lleol benodol o dan gynllun i'w hystyried fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion Rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur yn yr ardal awdurdod lleol honno.
Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion hawl i asesiad yn Rhan 3 o'r Mesur
4 
Mae gwasanaeth a ddarperir yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, sy'n gyfwerth â gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru, i'w ystyried yn wasanaeth iechyd meddwl eilaidd at ddibenion adran 22 (hawl i asesiad) ac adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol) o'r Mesur.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mai 2012