
2012 Rhif 1427 (Cy.177)
ANIFEILIAID, CYMRUANIFEILIAID DINISTRIOL
Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Gwnaed 8 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mai 2012
Yn dod i rym 1 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu bodloni oherwydd arferion dinistriol y rhywogaeth famalaidd anfrodorol sy'n destun y Gorchymyn hwn ei bod yn ddymunol gwahardd neu reoli eu cadw ac i ddifa unrhyw rai a all fod yn rhydd, ac wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2012.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932; a
(b) ystyr “minc” (“mink”) yw'r anifail o'r rhywogaeth mustela vison.
Gwahardd cadw mincod
3 

(1) Mae cadw mincod wedi ei wahardd.
(2) Wrth gymhwyso'r Ddeddf mewn perthynas â mincod, mae'r canlynol i'w hepgor—
(a) adran 5(2), a
(b) adran 6(1), paragraff (f) a'r cyfeiriad at gosb mewn achos o drosedd o dan baragraff (f).
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2012