
2012 Rhif 1423 (Cy.176) (C.53)
Y GYMRAEG
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012
Gwnaed 29 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012.
Cychwyn
2 
Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Mehefin 2012—
(a) adrannau 4 ac 11;
(b) adran 144(1) i'r graddau mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993; ac
(c) adran 144(3)(a) at ddibenion diddymu isadrannau (2)(a), (3) a (4) o adran 3 o'r Ddeddf honno.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Mai 2012