
2012 Rhif 1397 (Cy.169) (C.52)
IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012
Gwnaed 28 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 6 Mehefin 2012
2 
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 6 Mehefin 2012—
(a) Adran 12 (ystyr “claf perthnasol”);
(b) Adran 13 (ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”);
(c) Adran 14 (dyletswydd i benodi cydgysylltydd gofal ar gyfer claf perthnasol);
(d) Adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol);
(e) Adran 16 (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal);
(f) Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o'r Mesur;
(g) Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o'r Mesur;
(h) Adran 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
(i) Adran 20 (dyletswydd i gynnal asesiadau);
(j) Adran 21 (methiant i gytuno ar drefniadau);
(k) Adran 22 (hawl i asesiad);
(l) Adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol);
(m) Adran 24 (darparu gwybodaeth am asesiadau);
(n) Adran 25 (diben asesu);
(o) Adran 26 (asesiadau: darpariaeth bellach);
(p) Adran 27 (camau yn dilyn asesiad);
(q) Adran 28 (atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant);
(r) Adran 29 (penderfynu man preswylio arferol);
(s) Adran 30 (cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol);
(t) Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;
(u) Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;
(v) Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;
(w) Adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol); ac
(x) Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o'r Mesur.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mai 2012