
2012 Rhif 1387 (Cy.168)
ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) (Dirymu) 2012
Gwnaed 23 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Mai 2012
Yn dod i rym 15 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru,a hwythau bellach heb eu bodloni bod difa aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn angenrheidiol o fewn yr ardal reoli a bennir yng Ngorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 er mwyn dileu neu leihau'n sylweddol nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno, acar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 21(2), (4) a (5) ac 86(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) (Dirymu) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mehefin 2012.
Dirymu
2 
Dirymir Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 .
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
23 Mai 2012