
2012 Rhif 1287 (Cy.164)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012
Gwnaed 14 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Mai 2012
Yn dod i rym 6 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(A1), 7B(3) a 19(2) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, a chan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2015.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Hysbysebu mewn mangreoedd gwerthwyr tybaco arbenigol
2 

(1) Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 2 o'r Ddeddf (gwaharddiad ar hysbysebu tybaco) os yw'r hysbyseb dybaco—
(a) mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol;
(b) yn un nad yw ar gyfer sigaréts neu dybaco rholio â llaw; ac
(c) yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn y paragraffau a ganlyn.
(2) Ni chaniateir i hysbyseb dybaco fod yn weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.
(3) Rhaid i bob hysbyseb gynnwys adran (“yr adran wybodaeth”) (“the information area”) lle yr arddangosir ynddi—
(a) rhybudd iechyd fel a bennir ym mharagraff (4); a
(b) yr wybodaeth iechyd a ganlyn—“
 Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru
 0800 169 0 169
 Smokers' Helpline Wales”.
(4) Rhaid i'r rhybudd iechyd ddatgan—
(a) mewn achos lle mae hanner neu ragor o arwynebedd hysbyseb ac eithrio'r adran wybodaeth (“yr adran hysbysebu”) (“the advertisement area”) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebu cynhyrchion tybaco y bwriedir iddynt gael eu hysmygu—“
 “Mae ysmygu yn lladd / Smoking kills” neu
 “Mae ysmygu yn achosi niwed difrifol i chi ac eraill o'ch cwmpas / Smoking seriously harms you and others around you””; a
(b) ym mhob achos arall—
 “Gall cynhyrchion tybaco achosi niwed difrifol i'ch iechyd a gallwch fynd yn gaeth iddynt / Tobacco products can seriously damage your health and are addictive”.
(5) Rhaid i'r adran wybodaeth o dan baragraff (3)—
(a) mewn achos lle y mae cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yn fwy na 75 o gentimetrau sgwâr, fod o leiaf 22.5 o gentimetrau sgwâr; a
(b) mewn unrhyw achos arall, beidio â bod yn llai na 30% o gyfanswm arwynebedd yr hysbyseb,
ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yw'r adran hysbysebu a'r adran wybodaeth.
(6) Rhaid i'r rhybudd iechyd a'r wybodaeth iechyd y mae'n ofynnol iddynt gael eu harddangos o dan baragraff (3)—
(a) bod yn annileadwy;
(b) bod yn ddarllenadwy;
(c) bod wedi eu printio mewn teip Helvetica du trwm ar gefndir gwyn;
(d) bod mewn maint ffont sy'n gyson drwy'r testun sy'n sicrhau bod y testun yn llenwi'r gyfran fwyaf posibl o'r adran wybodaeth;
(e) bod mewn teip â phriflythrennau a llythrennau bach fel y'u defnyddiwyd yn yr wybodaeth iechyd ym mharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, yn y rhybudd iechyd o dan sylw ym mharagraff (4);
(f) bod wedi eu canoli yn yr adran lle y mae'n ofynnol i'r testun gael ei brintio ynddi;
(g) cael eu harddangos yn gyfochrog â'r llawr;
(h) bod wedi eu hamgylchynu ag ymyl ddu y tu allan i'r adran wybodaeth y mae'n rhaid iddi beidio â bod yn llai na 3 milimetr a dim mwy na 4 milimetr ei lled, a honno'n ymyl nad yw'n ymyrryd â thestun y rhybudd na'r wybodaeth; ac
(i) bod wedi eu printio ar yr hysbyseb yn y fath fodd fel na ellir eu tynnu oddi arni neu wedi eu gosod ar yr hysbyseb drwy gyfrwng sticer na ellir ei dynnu oddi yno.
Arddangos cynhyrchion tybaco mewn mangreoedd gwerthwyr tybaco arbenigol
3 
Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco os yw'r arddangosiad—
(a) mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol; a
(b) yn un nad yw'n weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.
Dirymu
4 
Mae Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) 2004 wedi eu dirymu o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2012