
2012 Rhif 1285 (Cy.163)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012
Gwnaed 14 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Mai 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 4(3), 7A(2), 7B(3) a 19(2) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, a chan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso, effaith a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012 a deuant i rym—
(a) at ddibenion siopau mawr, nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco, ar 3 Rhagfyr 2012; a
(b) at bob diben arall, ar 6 Ebrill 2015.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i werthwyr tybaco arbenigol.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn—
 ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” (“relevant floor area”), mewn perthynas â siop yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy'n cynnwys, neu sy'n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau; ac
 ystyr “siop fawr” (“large shop”) yw siop lle mae arwynebedd perthnasol y llawr y tu hwnt i 280 o fetrau sgwâr.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “arwynebedd yr uned storio” (“area of storage unit”) yw cyfanswm arwynebedd yr uned storio lle y mae'r cynhyrchion tybaco ac unrhyw gynnyrch eraill yn weladwy;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002;
 mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llestr, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol;
 ystyr “pecyn” (“package”) yw unrhyw flwch, garton neu gynhwysydd arall;
 ystyr “pecyn gwreiddiol” (“original package”) yw'r pecyn y cyflenwyd y sigaréts neu'r tybaco rholio â llaw ynddo gan y gweithgynhyrchwr neu'r mewnforiwr at ddibenion manwerthu;
 ystyr “siop” (“shop”) yw unrhyw fangre lle y cynhelir masnach neu fusnes sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n bennaf, gwerthu nwyddau;
 ystyr “swmpwerthwr tybaco” (“bulk tobacconist”) yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) ac y mae ei gwerthiannau sigaréts neu dybaco rholio â llaw, a fesurir yn unol â pharagraff (2), yn cydymffurfio â'r amodau canlynol—
(a) bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigaréts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a
(b) bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau tybaco rholio â llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol;
 ystyr “uned storio” (“storage unit”) yw gantri, cabinet neu uned, hambwrdd, silff neu unrhyw gynnyrch arall lle y cedwir cynnyrch tybaco tra'n aros am ei werthu.
(2) Bydd y gwerthiannau y cyfeiriwyd atynt yn y diffiniad o “swmpwerthwr tybaco” yn cael eu mesur yn ôl y pris gwerthu—
(a) yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu
(b) yn ystod y cyfnod ers sefydlu'r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i'r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.
Ystyr “lle”
3 
At ddibenion adran 7A o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco), ystyr “lle” (“place”) yw mangre yng Nghymru lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu cynnig i'w gwerthu wrth gynnal busnes, ac eithrio mangre—
(a) sydd ond yn hygyrch i bersonau sy'n ymhel â busnes sy'n rhan o'r fasnach dybaco neu sy'n cael eu cyflogi gan fusnes o'r fath; a
(b) lle nad yw prisiau'r cynhyrchion tybaco yn weladwy o'r tu allan i'r fangre.
Arddangos o ganlyniad i arddangosiad sy'n destun cais
4 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arddangosiad sy'n destun cais yn cael ei wneud i unigolyn (“A”) sy'n 18 oed neu drosodd.
(2) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco mewn uned storio, i unigolion ac eithrio A—
(a) os yw'r arddangosiad—
(i) o ganlyniad i'r arddangosiad sy'n destun cais yn unig, a
(ii) yn parhau am gyfnod nad yw'n hwy na'r amser y mae ei angen i dynnu'r cynnyrch sy'n destun cais o'r uned storio; a
(b) os nad yw arwynebedd yr uned storio a arddangosir yn fwy nag 1.5 metr sgwâr.
(3) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco ac eithrio mewn uned storio, i unigolion ac eithrio A, os yw'r arddangosiad—
(a) o ganlyniad i'r arddangosiad sy'n destun cais yn unig, a
(b) yn parhau am gyfnod nad yw'n hwy na'r arddangosiad sy'n destun cais.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y cynnyrch sy'n destun cais” (“the requested product”) yw'r cynnyrch y gofynnodd A i'w brynu neu i gael gwybodaeth amdano.
Arddangos mewn mangreoedd swmpwerthwyr tybaco
5 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i arddangosiadau mewn mangreoedd swmpwerthwyr tybaco
(2) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco—
(a) os yw'r arddangosiad—
(i) mewn rhan o'r siop (“y man tybaco”) (“the tobacco area”) sy'n cynnwys cynhyrchion tybaco ac ategolion ysmygu yn unig; a
(ii) yn un nad yw'n weladwy o'r tu allan i'r man tybaco;
(b) os yw hysbysiad dwyieithog sy'n arddangos y datganiad canlynol wedi ei roi ar ddangos wrth y fynedfa i'r man tybaco—“
 Mae gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un sy'n iau na 18 oed yn erbyn y gyfraith / It is illegal to sell tobacco products to anyone under the age of 18”, ac
(c) os yw'r siop wedi ei dylunio fel nad oes angen i gwsmeriaid sy'n dymuno prynu cynhyrchion nad ydynt yn gynhyrchion tybaco ac ategolion ysmygu fynd drwy'r man tybaco na chael eu hannog i fynd drwy'r fan honno.
(3) Rhaid i ddimensiynau'r hysbysiad sydd i'w rhoi ar ddangos yn unol â pharagraff (2)(b) beidio â bod yn llai na 594 o filimetrau wrth 420 o filimetrau a rhaid i faint y datganiad sydd i'w arddangos ar yr hysbysiad olygu na fydd unrhyw nod yn llai na 36 o filimetrau ei uchder.
Arddangosiadau Cysylltiedig
6 

(1) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco mewn uned storio os yw'r arddangosiad hwnnw yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).
(2) Gofynion y paragraff hwn yw—
(a) bod yr arddangosiad—
(i) yn digwydd tra bo gweithgaredd a restrir ym mharagraff (3) yn cael ei gyflawni o ddifrif yn nhrefn arferol y busnes mewn perthynas â chynhyrchion tybaco;
(ii) o ganlyniad i gyflawni'r gweithgaredd hwnnw'n unig; a
(iii) yn parhau am gyfnod nad yw'n hwy na'r amser y mae ei angen er mwyn caniatáu i'r gweithgaredd hwnnw gael ei gyflawni; a
(b) nad yw arwynebedd yr uned storio a arddangosir yn fwy nag 1.5 metr sgwâr.
(3) Y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(i) yw—
(a) asesu lefelau'r stoc at ddibenion rheoli stoc;
(b) ailstocio;
(c) hyfforddi staff;
(d) glanhau'r uned storio;
(e) cynnal a chadw'r uned storio;
(f) ailwampio'r uned storio;
(g) gosod dangosiadau ar yr uned storio sy'n cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn rheoliad 8(3).
(4) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco yn ystod ailstocio—
(a) os yw'r cynhyrchion tybaco yn cael eu harddangos wrth iddynt gael eu rhoi yn yr uned storio yn unig; a
(b) os nad yw'r arddangosiad yn parhau'n hwy na'r amser y mae ei angen er mwyn rhoi'r cynhyrchion yn yr uned storio.
Arddangos i swyddogion a awdurdodwyd yn briodol o'r awdurdod gorfodi etc
7 
Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco os gwneir cais am yr arddangosiad hwnnw gan—
(a) swyddog a awdurdodwyd yn briodol o'r awdurdod gorfodi;
(b) cwnstabl; neu
(c) swyddog Cyllid a Thollau,sy'n gweithredu wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
Unedau storio
8 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r dangosiadau ar unedau storio o'r cynhyrchion tybaco a gedwir yn yr uned storio.
(2) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 2 o'r Ddeddf (gwaharddiad ar hysbysebu tybaco) os yw'r dangosiad yn cydymffurfio â gofynion paragraff (3).
(3) Y gofynion yw bod y dangosiad—
(a) wedi ei gyfyngu i'r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â chynhyrchion tybaco—
(i) enw brand y cynnyrch,
(ii) pan fônt wedi eu rhagbecynnu, nifer yr unedau yn y pecynnau neu, pan fônt yn cael eu gwerthu yn ôl pwysau, pwysau net y cynnyrch,
(iii) o ran sigârs yn unig, gwlad y tarddiad a'r dimensiynau,
(iv) o ran tybaco pib yn unig, y toriad a'r math o dybaco a ddefnyddir, a
(v) pris y cynnyrch;
(b) wedi ei brintio—
(i) mewn teip Helvetica du plaen ar gefndir gwyn,
(ii) mewn maint ffont sy'n gyson drwy'r testun cyfan gyda nodau nad ydynt yn uwch na 4 milimetr, a
(iii) mewn teip â llythrennau bach, ac eithrio bod llythyren gyntaf gair yn cael bod mewn teip â phriflythyren;
(c) heb fod yn fwy na 9 centimetr sgwâr ei faint;
(d) wedi ei gyfyngu o ran nifer i un dangosiad ar gyfer pob lleoliad ar wahân mewn uned storio lle y cedwir cynnyrch tybaco penodol; ac
(e) yn un nad yw'n cynnwys unrhyw nodwedd arall.
(4) Ym mharagraff (3)(e)—
 ystyr “nodwedd arall” (“other feature”) yw logo, nod masnach, symbol, arwyddair, teip, lliw neu batrwm lliw, llun, celfwaith, delweddau, ymddangosiad, neges neu unrhyw ddangosiad arall sy'n ffurfio'r cyfan neu ran o hunaniaeth adnabyddadwy cynnyrch, ond nad yw'n cynnwys cod bar neu rif stoc.
Dirymu
9 
Mae Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Man Gwerthu) 2004 wedi eu dirymu o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2012