
2012 Rhif 1265 (Cy.158)
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 9 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mai 2012
Yn dod i rym 2 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 64H(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 2 Mehefin 2012.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 40 (tystysgrifau ar gyfer rhoi triniaeth)—
(a) ym mharagraff (4) ar ôl “Ffurflen CO 7” mewnosoder “ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys”; a
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Pan fo awdurdod i roi triniaeth i glaf yn rhinwedd adrannau 64C(2)(a) neu 64E(6)(a), rhaid i'r dystysgrif sy'n ofynnol at ddibenion adrannau 64B(2)(b) a 64E(2)(b) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CO 8.”
(3) Yn Atodlen 1 (ffurflenni)—
(a) yn Ffurflen HO 15 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 20 — adnewyddu'r awdurdod i roi dan gadwad)—
(i) yn Rhan 2 ar ôl “from the Responsible Clinician” mewnosoder “. This Part to be completed following consultation with the Responsible Clinician”, a
(ii) yn Rhan 3 ar ôl “the Responsible Clinician” mewnosoder “following the completion of Part 2”;
(b) yn Ffurflen CP 1 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 17A — gorchymyn triniaeth gymunedol), Rhan 1 amod 2—
(i) ar ôl “Part 4A” mewnosoder “that falls within section 64C(4)”, a
(ii) ar ôl “in the patient’s case” mewnosoder “(SOAD Part 4A Certificate)”;
(c) yn Ffurflen CP 5 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 17E — hysbysiad am alw'n ôl i'r ysbyty), Rhan 2 paragraff (b), ar ôl “enabling a” mewnosoder “SOAD”;
(d) yn Ffurflen TC 8 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhan 6 — trosglwyddo claf sy'n ddarostyngedig i orfodaeth yn y gymuned) Rhan 1 amod 4, yn lle “Part 4A of the Act the patient’s case” rhodder “Part 4A that falls within section 64C(4) of the Act in the patient’s case (SOAD Part 4A Certificate)”;
(e) ym mhennawd Ffurflen CO 7 yn lle “(Part 4A Certificate)” rhodder “(SOAD Part 4A Certificate)”; ac
(f) ar ôl Ffurflen CO 7 mewnosoder—“
Form CO 8 Mental Health Act 1983 Part 4A — certificate of consent to treatment for community patient (Approved Clinician Part 4A certificate)
Regulation 40(5)”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2012