
2012 Rhif 1244 (Cy.152)
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012
Gwnaed 8 Mai 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45, 46 a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(b) o'r Mesur, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a) i'r graddau y maent yn ymwneud â darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 1 o'r Mesur, yn union ar ôl i adran 45 (Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol) o'r Mesur ddod i rym ar 8 Mai 2012; a
(b) at bob diben arall, yn union ar ôl i adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol) o'r Mesur ddod i rym ar 6 Mehefin 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 1 o'r Mesur
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol yn unol â'r hyn a ddarperir yn adran 45 o'r Mesur mae Rhan 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) o'r Mesur wedi ei datgymhwyso o ran ardaloedd yr awdurdodau lleol a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae Rhan 1 ac i'r graddau y mae angen hynny mae Rhannau 5 (cyffredinol) a 6 (amrywiol ac atodol) o'r Mesur wedi eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol a nodir ac a grwpir gyda'i gilydd fel rhanbarthau yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion Rhan 1 o'r Mesur mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw adrannau 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol), 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill) ac 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd) wedi eu datgymhwyso at ddibenion paragraff (1) nac wedi eu cymhwyso at ddibenion paragraff (2) ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cynllun y cyfeirir ato yn adran 2(4) neu 2(5) (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) i'r rhanbarth yn adrannau 7(6) ac 8(2) a (5).
Darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 3 o'r Mesur
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol yn unol â'r hyn a ddarperir yn adran 46 o'r Mesur mae Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur wedi ei datgymhwyso o ran ardaloedd yr awdurdodau lleol a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae Rhan 3 ac i'r graddau y mae angen hynny mae Rhannau 5 (cyffredinol) a 6 (amrywiol ac atodol) o'r Mesur wedi eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol a nodir ac a grwpir gyda'i gilydd fel rhanbarthau yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion Rhan 3 o'r Mesur mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw adrannau 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd), 22 (hawl i asesiad) a 29 (penderfynu man preswylio arferol), wedi eu datgymhwyso at ddibenion paragraff (1) nac wedi eu cymhwyso at ddibenion paragraff (2) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r canlynol—
(i) hawl oedolyn i gael asesiad; a
(ii) penderfynu man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw er mwyn sefydlu'r hawl i gael asesiad ar y sail bod man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw mewn ardal awdurdod lleol.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2012
ATODLEN 1
Ardaloedd awdurdodau lleol sydd wedi eu datgymhwyso er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhannau 1 a 3 o'r Mesur
Rheoliadau 3(1) a 4(1)


 Cyngor Bro Morgannwg
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
 Cyngor Caerdydd
 Cyngor Dinas Casnewydd
 Cyngor Gwynedd
 Cyngor Sir Caerfyrddin
 Cyngor Sir Ceredigion
 Cyngor Sir Ddinbych
 Cyngor Sir Mynwy
 Cyngor Sir Penfro
 Cyngor Sir y Fflint
 Cyngor Sir Ynys Môn
 Dinas a Sir Abertawe

ATODLEN 2
Y ddarpariaeth ranbarthol a'r partneriaid iechyd meddwl lleol sydd wedi eu dyrannu ar gyfer Rhannau 1 a 3 o'r Mesur
Rheoliadau 3(2) a (3) a 4(2) a (3)


Colofn 1 Colofn 2
Ardaloedd yr awdurdodau lleol (neu'r rhannau ohonynt) a gymhwysir fel rhanbarthau Y partneriaid iechyd meddwl lleol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir y Fflint Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Sir y Fflint
 Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Sir Caerfyrddin Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Ceredigion
 Cyngor Sir Penfro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
 Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cyngor Caerdydd Cyngor Bro Morgannwg
 Cyngor Caerdydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Sir Mynwy Cyngor Dinas Casnewydd
 Cyngor Sir Mynwy