
2012 Rhif 1238 (Cy.151)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
DŴR, CYMRU
Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 5 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mai 2012
Yn dod i rym- 1 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag y llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Gan arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 .
Amnewid rheoliad 2
2 
Yn lle rheoliad 2 (cymhwyso) o'r prif Reoliadau, rhodder—“
Cymhwyso
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i ddaliad mewn parth perygl nitradau a ddynodir felly gan y Rheoliadau hyn.
(3) Yn achos daliad sy'n rhannol o fewn parth perygl nitradau a ddynodir felly gan y Rheoliadau hyn, mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i'r rhan o'r daliad sydd o fewn y parth, ac mae cyfeiriad at ddaliad o fewn Rhannau 3 i 8 yn gyfeiriad at y rhan honno.”.
Amnewid rheoliadau 7 i 10
3 
Yn lle rheoliadau 7 (dynodi parthau perygl nitradau), 8 (cais am ddatganiad), 9 (achosion cyfreithiol gerbron y person penodedig) a 10 (effaith y canfyddiadau a wneir gan y person penodedig) yn y prif Reoliadau, rhodder—“
Dynodi parthau perygl nitradau
7 

(1) Yn y Rhan hon—
 ystyr “daliad perthnasol” (“relevant holding”) yw tir ynghyd â'i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i'r meddiannydd ac sy'n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol, ac sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal—
(a) y mae'r Asiantaeth yn ei argymell; a
(b) bod Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dderbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt)a ddylai gael ei ddynodi yn barth perygl nitradau, neu a ddylai barhau i gael ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn;
 ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw'r person a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
(2) Mae'r ardaloedd a nodir ar y map o'r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2008” (“Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2008”) ac a adneuwyd yn swyddfeydd Gweinidogion Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ yn cael eu dynodi yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Parthau perygl nitradau yw darnau o dir sy'n draenio i ddyfroedd llygredig ac sy'n cyfrannu at lygru'r dyfroedd hynny.
(4) I gynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'u ddyletswyddau o dan reoliad 11(3), rhaid i'r Asiantaeth, ar 1 Mehefin 2012, ac ar yr hwyraf, bob pedair blynedd sy'n dilyn, wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, drwy gyfeirio at y materion a grybwyllir yn rheoliad 11(3)(a) i (c), ynghylch pa ardaloedd y dylid eu dynodi'n barthau perygl nitradau neu a ddylai barhau i gael eu dynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Mae unrhyw argymhellion ynghylch y materion a gaiff eu datgan yn rheoliad 7(4) ac a gafodd eu gwneud gan yr Asiantaeth cyn 1 Mehefin 2012 yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud ar y dyddiad hwnnw.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r argymhellion hynny a wnaed gan yr Asiantaeth y maent â'u bryd ar eu derbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt) ac anfon hysbysiad o'r argymhellion i unrhyw berchennog neu feddiannydd daliad perthnasol.
(7) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfeiriad at dudalen ar wefan a gynhelir gan yr Asiantaeth neu Weinidogion Cymru, lle y mae modd dod o hyd i'r argymhelliad perthnasol (gydag unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â'u bryd ar ei wneud iddo).
Apelau
8 

(1) Caiff perchennog neu feddiannydd daliad perthnasol yr anfonwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(6) apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(2) Dim ond ar un neu ragor o'r seiliau a nodir ym mharagraff (3) y ceir apelio.
(3) Y seiliau yw bod, mewn perthynas â'r daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono, na ddylai Gweinidogion Cymru dderbyn argymhellion yr Asiantaeth (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â'u bryd ar ei wneud iddynt) oherwydd—
(a) nad yw'r daliad perthnasol nac unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr—
(i) y mae Gweinidogion Cymru â'u bryd ar ei ddynodi ei fod yn llygredig neu wedi ei ddynodi felly, neu
(ii) sydd wedi cael ei nodi felly yn Lloegr; neu
(b) bod y daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru ddynodi ei fod yn llygredig, neu na ddyllai barhau i gael ei ddynodi felly.
(4) Mae'r apêl i'w seilio ar naill ai—
(a) data a ddarparwyd gan yr apelydd; neu
(b) tystiolaeth a ddarparwyd gan yr apelydd sy'n dangos fod y data y mae Gweinidogion Cymru'n dibynnu arno yn anghywir.
(5) Rhaid i'r apêl—
(a) gael ei gwneud yn ysgrifenedig yn y dull a'r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(b) cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac
(c) bod yn nwylo Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 35 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru'r hysbysebiad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ailgyfeirio'r apêl at y person penodedig ar gyfer ei ystyriaeth a'i benderfyniad arni.
Achosion gerbron y person penodedig
9 

(1) Os yw'r person penodedig wedi ei fodloni bod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 8 ym mhob manylyn o bwys, rhaid i'r person penodedig fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar yr apêl.
(2) Mae'r weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniad ar yr apêl i'w phennu gan y person penodedig.
(3) Ond mae hynny yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(4) Cyn penderfynu ar yr apêl rhaid i'r person penodedig, gan ganiatáu'r cyfnod hwnnw sy'n rhesymol—
(a) gwahodd yr apelydd a Gweinidogion Cymru i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â'r apêl;
(b) anfon i Weinidogion Cymru gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd;
(c) anfon i'r apelydd gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru;
(d) rhoi cyfle i'r apelydd a Gweinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau i'r person penodedig ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a'r llall.
(5) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson yr ymddengys bod ganddo fuddiant sylweddol mewn apêl i gyflwyno sylwadau, ond rhaid iddo ganiatáu i'r apelydd a Gweinidogion Cymru gael y cyfle i gyflwyno sylwadaethau ar unrhyw un o'r sylwadau a wnaed.
(7) Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau sydd wedi eu cyflwyno mewn modd nad yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.
(8) Os yw'r person penodedig wedi ei fodloni bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, caiff gynnal gwrandawiad llafar.
(9) Mewn gwrandawiad llafar mae gan y apelydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos, a chaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos gerbron.
(10) Wrth benderfynu ar yr apêl, rhaid i'r person penodedig anfon copi o'r penderfyniad i bawb a oedd yn barti i'r apêl.
(11) Rhaid i bob un sy'n barti i apêl ddwyn ei gostau ei hun.
(12) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn i'r person penodedig benderfynu arni.
(13) Mae tynnu apêl yn ôl yn effeithiol wrth i'r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person penodedig.
(14) Os tynnir apêl yn ôl mae'r person penodedig yn peidio â bod o dan ddyletswydd i'w hystyried a phenderfynu arni.
Effaith y penderfyniadau a wneir gan y person penodedig
10 

(1) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo wrth benderfyniad y person penodedig ar yr apêl.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi penderfyniadau'r apelau gan y person penodedig ar wefan a gynhelir ganddynt.”.
John Griffiths
Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
5 Mai 2012