
2012 Rhif 1198 (Cy.148)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012
Gwnaed 27 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mai 2012
Yn dod i rym 23 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (c) ac (f), 17(1) a (2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt, fel y'i darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i offeryn UE a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 23 Mai 2012.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a) yn lle'r diffiniad o “lliw a ganiateir” rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “lliw a ganiateir” (“permitted colour”)—
(a) cyn 1 Rhagfyr 2012, yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/128;
(b) ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2012, yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;”;
(b) yn lle'r diffiniad o “melysydd a ganiateir” rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”)—
(a) cyn 1 Rhagfyr 2012—
(i) yw unrhyw felysydd a bennir yn yr ail golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw a nodir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/60; neu,
(ii) yn achos glycosidau stefiol E960, yw melysydd sy'n bodloni'r meini prawf purdeb ar gyfer y melysydd hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;
(b) ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2012—
(i) yw unrhyw felysydd a bennir yn yr ail golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35; neu
(ii) yw glycosidau stefiol E960sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;”;
(c) yn lle'r diffiniad o “meini prawf purdeb” rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “meini prawf purdeb” (“purity criteria”), mewn perthynas ag ychwanegyn amrywiol—
(a) cyn 1 Rhagfyr 2012, yw'r meini prawf purdeb a nodir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/84 neu, yn achos copolymer methacrylad basig E1205, yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;
(b) ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2012, yw'r meini prawf purdeb a nodir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;”;
(d) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 1333/2008” mewnosoder “fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 231/2012”; ac
(e) ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 1333/2008” mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “Rheoliad 1129/2011” (“Regulation 1129/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor drwy sefydlu rhestr Undeb o ychwanegion bwyd, fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1131/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran glycosidau stefiol;
 ystyr “Rheoliad 1130/2011” (“Regulation 1130/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr Undeb o ychwanegion bwyd a gymeradwyir i'w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maethynnau;
 ystyr “Rheoliad 231/2012” (“Regulation 231/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy'n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor;”.
(3) Yn lle paragraff (6) o reoliad 2, rhodder y canlynol—“
(6) Yr offerynnau UE yw Cyfarwyddeb 94/35, Cyfarwyddeb 95/2, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 231/2012.”
(4) Yn rheoliad 14(2) (tramgwyddau a chosbau)—
(a) ar ôl yr ymadrodd “Erthygl 34 o Reoliad 1333/2008,” ychwaneger “Erthygl 2 o Reoliad 1129/2011 ac Erthygl 2 o Reoliad 1130/2011,”; a
(b) hepgorer is-baragraffau (b) ac (c).
(5) Yn y tabl yn yr Atodlen (darpariaethau Rheoliad 1333/2008 penodedig), yn union ar ôl y cofnodion sy'n ymwneud ag Erthygl 4.1 mewnosoder y cofnodion a ganlyn—“
Erthygl 4.2 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 12, 13.2 a 18.3) Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad III i Reoliad 1333/2008 a gaiff eu defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maethynnau a hynny o dan yr amodau defnydd a bennir yn yr Atodiad hwnnw.”
Diwygio Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993
3 

(1) Mae Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 wedi eu diwygio o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 1 Rhan I (toddyddion echdynnu a ganiateir) ychwaneger fel cofnod rhif 22 yng Ngholofn 1 y geiriau “Dimethyl ether”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2012