
2012 Rhif 1189 (Cy.146)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Ceredigion) 2012
Gwnaed 29 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mai 2012
Yn dod i rym 4 Mehefin 2012

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 74, 84 a 89 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, a pharagraffau 8(1) o Atodlen 8 a 3(1) o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno. Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn perthynas â'r cyfan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Ceredigion) 2012 a daw i rym ar 4 Mehefin 2012.
Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac ardal gorfodi arbennig
2 

(1) Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
(2) Yr ardal a ddynodir yw Sir Ceredigion.
(3) Yn yr erthygl hon—
 mae i “ardal gorfodi arbennig” yr ystyr a roddir i “special enforcement area” gan baragraff 3 o Atodlen 10 i Ddeddf 2004,
 mae i “ardal gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement area” gan baragraff 8 o Atodlen 8 i Ddeddf 2004,
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004, ac
 mae i “tramgwydd parcio” yr ystyr a roddir i “parking contravention” gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2012