
2012 Rhif 1156 (Cy.139)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012
Gwnaed 26 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Ebrill 2012
Yn dod i rym 18 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mai 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 wedi eu diwygio yn unol â'r rheoliadau canlynol.
3 
Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—“
 ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy'n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy'n cael ei gadw'n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;
 ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—
(a) sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012;
(b) sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio'r cwrs presennol;
(c) y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol;
(ch) nad yw wedi trosglwyddo i'r cwrs presennol o dan reoliad 8 o gwrs sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012; a
(d) nad yw'n dechrau cwrs penben ar neu ar ôl 1 Medi 2012;
 ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac nad yw'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy'n ymgymryd â'r cwrs fod yn bresennol arno, ac eithrio er mwyn bodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—
(a) at ddibenion cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu
(b) ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;”.
4 
Ar ôl rheoliad 4(11) mewnosoder—“
(12) Yn ddarostyngedig i baragraff (13), ni fydd carcharor sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn fyfyriwr cymwys oni bai—
(a) ei fod yn garcharor cymwys;
(b) ei fod yn fyfyriwr cymwys sydd wedi trosglwyddo i'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 o dan reoliad 8 o gwrs sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012; neu
(c) bod y cwrs presennol yn gwrs penben.
(13) Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar neu'n cael ei ryddhau o'r carchar.”
5 
Yn rheoliad 5(1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (b)(ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (b)(iii) mewnosoder “neu”;
(c) ar ôl is-baragraff (b)(iii) mewnosoder—“
(iv) cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 74(5) yn gymwys iddo;”;
(d) ar ddiwedd is-baragraff (ch) hepgorer “a”;
(e) ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; ac”; ac
(f) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(dd) ar gyfer cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy'n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw'n gwrs sy'n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i'w roi gan gorff sy'n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”
6 
Yn rheoliad 6(9), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf am resymau personol anorchfygol—
(i) bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio; a
(ii) caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i'r rhesymau hynny.”
7 
Ar ôl rheoliad 13(4) mewnosoder—“
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.”
8 
Yn rheoliad 25—
(a) ar ôl y geiriau “myfyrwyr anabl” ym mharagraff (13) mewnosoder “sy'n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012”; a
(b) ar ôl paragraff (15) mewnosoder—“
(16) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 26.”
9 
Yn rheoliad 26—
(a) ar ôl y geiriau “gwrs dynodedig” ym mharagraff (1) mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae'n ymgymryd ag ef”; a
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.”
10 
Ar ôl rheoliad 46(9) mewnosoder—“
(10) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.”
11 

(1) Yn rheoliad 74(2)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (ch), yn lle “.” rhodder “; a”; ac
(c) ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—“
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.”
(2) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—
(a) os yw myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 83 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a
(b) pe byddai'r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.”
12 
Yn rheoliad 89(3)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch) mewnosoder “neu”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (d), yn lle “; neu” rhodder “.”; ac
(c) hepgorer is-baragraff (dd).
13 

(1) Yn rheoliad 105(3), yn lle'r gair “chwe” rhodder “naw”.
(2) Yn rheoliad 105(4)(a), yn lle'r gair “chwe” rhodder “naw”.
14 
Ar ôl paragraff 1(6) o Ran 1 o Atodlen 1 mewnosoder—“
(7) At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o'r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.”
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Ebrill 2012