
2012 Rhif 1143 (Cy.137)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012
Gwnaed 21 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Ebrill 2012
Yn dod i rym 21 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7)(b) a 50(2)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 21 Mai 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Pennu dyddiad cyhoeddi
2 

(1) Mewn cysylltiad â'r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2), mae'r dyddiad canlynol wedi ei bennu at ddibenion adran 15(7)(b) o'r Mesur, sef 31 Rhagfyr cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn ymwneud â hi.
(2) Mae'r wybodaeth a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn wybodaeth sydd i'w chyhoeddi gan awdurdod tân ac achub o dan adran 15(6) o'r Mesur (cyhoeddi disgrifiad o'i gynllun gwella) ar gyfer blwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013 neu ar ôl hynny.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010 wedi ei ddirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2012