
2012 Rhif 1096 (Cy.135) (C.35)
Y GYMRAEG, CYMRU
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012
Gwnaed 13 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012.
Cychwyn
2 
Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 17 Ebrill 2012—
(a) adran 22 ac eithrio isadran 2(b) i (d) a'r diffiniad o “ymchwiliad i orfodi safonau” yn isadran (9);
(b) adran 24; ac
(c) adran 44.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Ebrill 2012