
2012 Rhif 1085 (Cy.133)
RHAGOFALON TÅN, CYMRU
Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012
Gwnaed 8 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Ebrill 2012
Yn dod i rym 12 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 24 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag erthygl 24(4) o'r Gorchymyn hwnnw mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff o bersonau yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cyflogwyr i ystyried galluoedd cyflogeion
2 
Rhaid i bob cyflogwr, wrth roi tasgau yng ngofal cyflogeion, ystyried galluoedd y cyflogeion hynny o ran iechyd a diogelwch, i'r graddau y mae'r galluoedd hynny yn ymwneud â thân.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
8 Ebrill 2012