
2011 Rhif 995 (Cy.148)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 29 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym 22 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Ebrill 2011.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008.
2 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.
(5) Yn erthygl 11(e) yn lle “hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012” rhodder “am y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 ac sy'n gorffen ar 30 Medi 2010,”.
(6) Ym mhennawd erthygl 11A (Y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 30 Medi 2011) yn lle “30 Medi 2011” rhodder “30 Medi 2012”.
(7) Yn erthygl 11A(2) yn lle “30 Medi 2011” rhodder “30 Medi 2012”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011