
2011 Rhif 993 (Cy.146)
CREDYDAU TRETH, CYMRU
Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 28 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002, yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Cynllun hwn ystyr “y prif Gynllun” (“the principal Scheme”) yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.
Diwygio erthygl 2 o'r prif Gynllun
2 
Yn erthygl 2 o'r prif Gynllun (diffiniadau), yn y diffiniad o “corff cymeradwyo” (“approval body”), yn lle “yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.
Dirymu erthygl 3 o'r prif Gynllun
3 
Mae erthygl 3 o'r prif Gynllun (corff penodedig) wedi ei dirymu.
Diwygio erthygl 6 o'r prif Gynllun
4 
Yn lle paragraff (1) o erthygl 6 o'r prif Gynllun (person a gymeradwywyd) rhodder y canlynol—“
(1) Rhoddir cymeradwyaeth i berson fel darparydd gofal plant o dan y Cynllun hwn os yw'r corff cymeradwyo wedi'i fodloni bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni mewn perthynas â'r person hwnnw.”.
Diwygio erthygl 7 o'r prif Gynllun
5 
Ym mharagraff (b) o erthygl 7 o'r prif Gynllun (meini prawf cymeradwyo) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.
Diwygio erthyglau 8, 9 a 10 o'r prif Gynllun
6 
Yn erthyglau 8 (system gymeradwyo), 9 (yr wybodaeth sydd i'w darparu gan y corff cymeradwyo) a 10 (y cyfnod cymeradwyo) o'r prif Gynllun, yn lle “rhaid i” rhodder “bydd” ym mhob man lle y mae'n ymddangos.
Diwygio erthygl 12 o'r prif Gynllun
7 
Yn erthygl 12 o'r prif Gynllun (ffioedd) hepgorer “, a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru,”.
Dirymu erthygl 13 o'r prif Gynllun
8 
Mae erthygl 13 o'r prif Gynllun (darpariaethau trosiannol) wedi ei dirymu.
Mewnosod erthyglau yn y prif Gynllun
9 
Mae'r erthyglau a ganlyn wedi eu mewnosod yn y prif Gynllun—“
Arbed
14 

(1) Er gwaethaf dwyn y Cynllun hwn i rym, mae unrhyw gymeradwyaeth a roddir i ddarparydd gofal plant gan y cyn gorff cymeradwyo yn ddilys yn union cyn 1 Ebrill 2011 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r darparydd hwnnw hyd nes y cynharaf o'r tri dyddiad isod, sef —
(a) y dyddiad pryd y tynnir y gymeradwyaeth honno yn ôl yn unol ag erthygl 6;
(b) y dyddiad pryd y daw'r gymeradwyaeth i ben am fod amser wedi mynd heibio; neu
(c) y dyddiad pryd y rhoddir cymeradwyaeth i'r darparydd gofal plant dan sylw gan y corff cymeradwyo yn unol ag erthygl 6.
(2) Yn yr erthygl hon ac yn erthygl 15, ystyr “cyn gorff cymeradwyo” (“former approval body”) yw Nestor Primecare Services Limited, sy'n masnachu fel Nestor Criminal Records Agency.
Darpariaeth drosiannol
15 
Pan fo cais am gymeradwyaeth fel darparydd gofal plant wedi cael ei gyflwyno i'r cyn gorff cymeradwyo ond nid yw wedi ei roi na'i wrthod eto gan y cyn gorff cymeradwyo cyn 1 Ebrill 2011, bydd y cais hwnnw am gymeradwyaeth yn cael ei benderfynu gan y corff cymeradwyo.”.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2011