
2011 Rhif 986 (Cy.143) (C.39)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU A LLOEGR
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cychwyn Rhif 17) 2011
Gwnaed 28 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 17) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.
Y diwrnodau penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n dod i rym o ran Cymru a Lloegr
2 

(1) 29 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym is-adran (8) o adran 146 o'r Ddeddf (taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau gofal).
(2) 1 Awst 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 144 o'r Ddeddf (pwyso a mesur plant: Cymru).
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n dod i rym o ran Cymru
3 
29 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym is-adrannau (1) i (7) o adran 146 o'r Ddeddf (taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau gofal) o ran Cymru, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2011