
2011 Rhif 97 (Cy.20) (C.6)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011
Gwnaed 17 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 48(2) a 49(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Diwrnodau Penodedig
2 

(1) Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 19 Ionawr 2011—
(a) adran 23 (cwricwla lleol: Y Gymraeg);
(b) adran 25 (penderfynu “relevant school or institution” ar gyfer disgybl);
(c) adran 26 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol);
(ch) adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33G(3) o Ddeddf 2000;
(d) adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33I(3) o Ddeddf 2000;
(dd) adran 31 (cynllunio'r cwricwlwm lleol);
(e) adran 32 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio);
(f) adran 33 (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau);
(ff) adran 34 (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu);
(g) adran 35 (y cwricwlwm lleol: dehongli);
(ng) adran 36 (cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau);
(h) adran 37 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu);
(i) adran 38 (cymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau o fewn y sector addysg uwch);
(j) adran 39 (rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn);
(l) adran 47 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn llawn;
(ll) paragraffau 1 i 10 o'r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
(2) Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 14 Chwefror 2011—
(a) adran 21 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 oed);
(b) adran 22 (llunio cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed);
(c) adran 24 (ardaloedd â mwy nag un cwricwlwm lleol);
(ch) adran 27 (hawlogaethau myfyrwyr o ran y cwricwlwm lleol);
(d) adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(ch);
(dd) adran 29 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol);
(e) adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(d).
Leighton Andrews
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2011