
2011 Rhif 94 (Cy.19)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011
Gwnaed 17 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Ionawr 2011
Yn dod i rym 21 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a 17(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff cynrychioliadol hynny y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
1 
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror 2011 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cerbytffordd”, “llain galed” a “llain ymyl” yr ystyr sydd i “carriageway”, “hard shoulder” a “verge” yn Rheoliadau 1982;
 ystyr “yr M4” (“the M4”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru yr M4;
 ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982; ac
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 2002.
3 

(1) Ni chaiff neb yrru cerbyd ar ddarn o ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy ar gyflymder sy'n uwch na'r hyn a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder.
(2) Mae darn o ffordd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy mewn perthynas â cherbyd sy'n cael ei yrru arno—
(a) os yw'r ffordd wedi ei phennu yn yr Atodlen;
(b) os yw'r cerbyd wedi pasio arwydd terfyn cyflymder; ac
(c) os nad yw'r cerbyd wedi pasio—
(i) arwydd terfyn cyflymder arall sy'n dangos terfyn cyflymder gwahanol; neu
(ii) arwydd traffig sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.
(3) Mewn perthynas â cherbyd, y terfyn cyflymder a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder yw'r cyflymder a ddangosir ar yr adeg y mae'r cerbyd yn pasio'r arwydd, neu, os yw'n uwch na hynny, y terfyn cyflymder a ddangoswyd gan yr arwydd ddeng eiliad cyn i'r cerbyd basio'r arwydd.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn bernir nad yw arwydd terfyn cyflymder yn dangos unrhyw derfyn cyflymder os oedd yr arwydd, ddeng eiliad cyn i'r cerbyd ei basio, wedi dangos nad oedd terfyn cyflymder neu wedi dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “arwydd terfyn cyflymder” (“speed limit sign”), mewn perthynas â cherbyd, yw arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 670 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—
(a) a roddir ar ffordd neu gerllaw unrhyw ran o ffordd a bennir yn yr Atodlen; a
(b) a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni:
 mae “ffordd” (“road”) yn cynnwys y llain galed a'r llain ymyl gyfagos;
 mae i “terfyn cyflymder cenedlaethol” yr ystyr a roddir i “national speed limit” gan reoliad 5(2) o Reoliadau 2002 ac mae arwydd traffig sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym yn golygu arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 671 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—
(a) a roddir ar ffordd neu gerllaw ffordd; a
(b) a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2010
YR ATODLEN
FFYRDD PENODEDIG

Y ffyrdd penodedig yw—
(a) Y darn o gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 o bwynt 671 o fetrau i'r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin i bwynt 55 o fetrau i'r gorllewin o ddiwedd y parapet ar danbont Forge Road.
(b) Y darn o gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 o bwynt 83 o fetrau i'r gorllewin o ddiwedd y parapet ar danbont Forge Road i bwynt 666 o fetrau i'r gorllewin o linell ganol tanbont Langstone Court Road.
(c) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A449.
(ch) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A449.
(d) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A449 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4.
(dd) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Caerllion ar y B4596.
(e) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Caerllion ar y B4596 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.
(f) Y darn o'r ffordd gysylltu sy'n ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A4042.
(ff) Y darn o'r ffordd gyswllt sy'n ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A4042 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.
(g) Y darn o ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051.
(ng) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051.
(h) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.
(i) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan Malpas ar yr A4051 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4.
(j) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591.
(l) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591.
(ll) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.
(m) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan High Cross ar y B4591 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4.
(n) Y darn o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r gorllewin yr M4 i'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A467/A48.
(o) Y darn o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o'r fan lle y mae'n cysylltu â chylchfan yr A467/A48 i'r fan lle y mae'n cysylltu â phrif gerbytffordd tua'r dwyrain yr M4.
