
2011 Rhif 925 (Cy.134)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU
LLYGRU MOROL, CYMRU
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu ) (Cymru) 2011
Gwnaed 22Mawrth 2011
Yn dod i rym 6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 , yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 73 a 316(1) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(c) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
RHAN 1 Rhagarweiniad
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu ) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
Cymhwyso
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 .
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr Awdurdod Trwyddedu” (“the Licensing Authority”) yw Gweinidogion Cymru, yn gweithredu yn eu swyddogaeth fel yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
 mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys map, ffotograff neu adroddiad;
 mae i “dyddiad dechrau” (“start date”) yr ystyr a roddir gan reoliad 8(3);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
 ystyr “hysbysiad apêl dilys” (“valid notice of appeal”) yw hysbysiad apêl—
(a) sy'n cydymffurfio â rheoliad 7(1);
(b) a anfonwyd ynghyd â'r dogfennau sy'n ofynnol gan reoliad 7(2); ac
(c) a gafwyd gan Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser perthnasol;
 ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw'r person a benodir o dan reoliad 5(1);
 ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw—
(a) y terfynau amser a bennir yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw gyfarwyddyd a roddir neu ofyniad a wneir gan y person penodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;
(b) ond mae is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i reoliad 25(1).
 ystyr “trwydded forol” (“marine licence”) yw trwydded a roddir o dan Ran 4 o'r Ddeddf
RHAN 2 Apelau — cyffredinol
Apêl yn erbyn penderfyniadau trwyddedu morol
4 

(1) Caiff person a wnaeth gais am drwydded forol apelio i Weinidogion Cymru drwy hysbysiad yn erbyn penderfyniad a wnaed o dan adran 71 o'r Ddeddf (gwrthod trwydded neu ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau etc).
(2) Rhaid gwneud apelau yn unol â'r Rheoliadau hyn.
Penderfynu gan berson a benodir
5 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person (“y person penodedig”)—
(a) i benderfynu, pan ddaw hysbysiad apêl i law yn unol â rheoliad 4(1), a yw'r hysbysiad a ddaeth i law yn hysbysiad apêl dilys, ac os ydyw,
(b) penderfynu'r apêl.
(2) Rhaid penderfynu apelau yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(3) Pan wneir penodiad o dan baragraff (1)—
(a) rhaid gwneud y penodiad mewn ysgrifen;
(b) ceir gwneud y penodiad ar gyfer unrhyw apêl benodol a bennir yn y penodiad, neu ar gyfer dosbarth neu ddisgrifiad o apelau a bennir felly;
(c) caiff fod yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a bennir yn y penodiad;
(ch) caiff ddarparu ar gyfer talu i'r person penodedig.
(4) Mewn perthynas ag unrhyw apêl nad yw eisoes wedi ei phenderfynu, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu penodiad a wnaed o dan baragraff (1) os—
(a)  hysbysir hwy mewn ysgrifen gan y person penodedig, neu
(b) os bodlonir hwy rywfodd arall,
nad yw'r person penodedig yn alluog i gyflawni gofynion paragraff (1).
(5) Pan ddirymir penodiad felly mewn perthynas ag unrhyw apêl, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, benodi person arall o dan baragraff (1) i benderfynu'r apêl.
(6) Pan wneir penodiad newydd, rhaid i'r ystyriaeth o'r apêl, neu unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad mewn perthynas â hi, ailddechrau o'r newydd.
(7) Ond nid oes dim ym mharagraff (6) sy'n gwneud yn ofynnol rhoi cyfle i unrhyw berson wneud sylwadau neu esboniadau newydd, nac addasu na thynnu'n ôl unrhyw sylwadau neu esboniadau a wnaed eisoes.
RHAN 3 Dechrau'r apêl
Terfyn amser ar gyfer hysbysiad apêl
6 
Rhaid i hysbysiad apêl ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 6 mis sy'n cychwyn gyda dyddiad y penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.
Cynnwys yr hysbysiad apêl
7 

(1) Rhaid i hysbysiad apêl gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost) a rhif teleffon yr apelydd ac unrhyw asiant sy'n gweithredu ar ran yr apelydd;
(b) datganiad o seiliau'r apêl;
(c) datganiad pa un ai drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad, ynteu ymchwiliad y mae'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin;
(ch) rhestr o'r holl ddogfennau, gan gynnwys dyddiadau (pan fo'r dogfennau wedi eu dyddio), a bennir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i hysbysiad apêl gael ei gyflwyno ynghyd ag—
(a) copi o'r penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef; a
(b) copi o'r holl ddogfennau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arnynt.
Penderfynu ar weithdrefn apêl a dyddiad dechrau
8 

(1) Rhaid i'r person penodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfynu ar ddilysrwydd hysbysiad apêl, benderfynu a yw'r apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad ynteu ymchwiliad.
(2) Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu o'r penderfyniad hwnnw.
(3) Dyddiad yr hysbysiad hwnnw yw'r dyddiad dechrau ar gyfer yr apêl.
(4) Ceir amrywio'r penderfyniad o dan baragraff (1) gan benderfyniad diweddarach o dan y paragraff hwnnw, ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r apêl.
(5) Ond cyn gwneud amrywiad o'r fath, rhaid i'r person penodedig ymgynghori â'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu.
(6) Os caiff y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ei amrywio—
(a) rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd, yr Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r apêl, ynghylch yr amrywiad;
(b) bydd unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r weithdrefn apêl flaenorol, y gellid bod wedi ei wneud o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol o'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r weithdrefn apêl newydd, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan y ddarpariaeth gyfatebol honno; ac
(c) caiff y person penodedig roi cyfarwyddiadau canlyniadol ynglŷn â'r weithdrefn.
(7) Nid oes dim ym mharagraffau (4) i (6) sy'n effeithio ar y dyddiad dechrau o dan baragraff (3).
(8) Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i'r person penodedig roi sylw i unrhyw griteria a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
RHAN 4 Gweithredu ar ôl y dyddiad dechrau
Hysbysiad i bersonau sydd â diddordeb
9 

(1) Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 2 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, roi hysbysiad i'r perwyl bod apêl wedi ei gwneud—
(a) i unrhyw berson (ac eithrio'r apelydd) sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â'r cais y mae'r apêl yn ymwneud ag ef; a
(b) i unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Awdurdod Trwyddedu, yn debygol o fod â diddordeb.
(2) Rhaid i'r hysbysiad ddatgan—
(a) y dyddiad dechrau;
(b) enw a lleoliad y safle y mae'r apêl yn ymwneud ag ef;
(c) enw'r apelydd;
(ch) y bydd yr apêl yn cael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad (yn ôl fel y digwydd);
(d) y caiff derbynnydd yr hysbysiad, o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r person penodedig;
(dd) y cyfeiriad y mae'n rhaid anfon sylwadau o'r fath iddo;
(e) y bydd unrhyw sylwadau a ddaw i law yn cael eu hanfon at yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu; ac
(f) os bydd y derbynnydd yn gwneud sylwadau, y bydd y person penodedig yn ei hysbysu o ddyddiad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir.
(3) Ynghyd â'r hysbysiad rhaid darparu copi o'r penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.
(4) Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 2 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon y canlynol at y person penodedig ac at yr apelydd—
(a) rhestr o'r personau y rhoddwyd yr hysbysiad o dan baragraff (1) iddynt, ac o'r dyddiadau y gwnaed hynny; a
(b) copïau o'r holl sylwadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a).
Sylwadau ac esboniadau
10 

(1) Pan fo apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig—
(a) rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig unrhyw sylwadau y mae'r Awdurdod Trwyddedu'n dymuno'u gwneud ynglŷn â'r apêl, ynghyd ag unrhyw ddogfennau y mae'n bwriadu dibynnu arnynt;
(b) os yw'r apelydd yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r apêl, yn ychwanegol at y datganiad o seiliau'r apêl y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1)(b) neu'r dogfennau a gyflwynwyd gydag ef, y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2), rhaid i'r apelydd anfon y sylwadau hynny at y person penodedig o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau.
(2) Pan fo apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad, rhaid i'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, ill dau, o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig ddatganiad sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y maent yn bwriadu ei roi gerbron yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, a rhestr o unrhyw ddogfennau y bwriadant gyfeirio atynt neu'u rhoi yn dystiolaeth.
(3) Ar ddiwedd y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, rhaid i'r person penodedig—
(a) os yw'r apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig—
(i) anfon copi o sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd; a
(ii) anfon copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan yr apelydd o dan baragraff (1)(b) at yr Awdurdod Trwyddedu;
(b) os yw'r apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad, anfon copi o sylwadau a rhestr dogfennau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd a chopi o ddatganiad a rhestr dogfennau'r apelydd at yr Awdurdod Trwyddedu;
(c) ym mhob achos, anfon, ar yr un pryd, copïau o unrhyw sylwadau eraill a ddaw i law'r person penodedig mewn perthynas â'r apêl at yr apelydd ac at yr Awdurdod Trwyddedu.
(4) Caiff yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 9 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig esboniadau ar y sylwadau hynny neu'r datganiad hwnnw.
(5) Rhaid i'r person penodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y cyfnod hwnnw o 9 wythnos, anfon copi o esboniadau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd, ac ar yr un pryd, anfon copi o esboniadau'r apelydd at yr Awdurdod Trwyddedu.
RHAN 5 Gwrandawiadau ac ymchwiliadau
Cwmpas
11 
Mae'r Rhan hon yn gymwys os yw apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad (ond bydd rhai darpariaethau yn gymwys i wrandawiadau yn unig neu ymchwiliadau yn unig).
Sefydlu'r gwrandawiad neu ymchwiliad
12 

(1) Rhaid i'r person penodedig bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad neu ymchwiliad (“y dyddiad perthnasol”).
(2) Rhaid i'r person penodedig, 6 wythnos o leiaf cyn y dyddiad perthnasol, roi hysbysiad o'r dyddiad perthnasol i'r apelydd, yr Awdurdod Trwyddedu ac i unrhyw berson a wnaeth sylwadau ynglŷn â'r apêl.
(3) Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, 3 wythnos o leiaf cyn y dyddiad perthnasol, gyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad, ym mha bynnag fodd y tybia'r Awdurdod Trwyddedu fydd y mwyaf effeithiol o ran ei ddwyn i sylw unrhyw bersonau sy'n debygol o fod â diddordeb ynddo.
(4) Os newidir y dyddiad perthnasol rhaid dilyn drachefn y weithdrefn ym mharagraffau (2) a (3).
Y cyfarfod cyn yr ymchwiliad
13 

(1) Os yw'r apêl i gael ei phenderfynu drwy ymchwiliad, caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, i benderfynu ar y materion y rhoddir sylw iddynt a'r weithdrefn a ddilynir yn yr ymchwiliad.
(2) Rhaid i'r person penodedig roi 4 wythnos, o leiaf, o rybudd o gyfarfod o'r fath i'r canlynol—
(a) yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu;
(b) unrhyw berson y gwyddys, ar ddyddiad yr hysbysiad, bod hawl ganddo i ymddangos yn yr ymchwiliad; ac
(c) unrhyw berson arall yr ystyrir ei bresenoldeb yn ddymunol gan y person penodedig.
(3) Yn y cyfarfod, caiff y person penodedig roi cyfarwyddiadau i'r apelydd, yr Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos yn yr ymchwiliad, ynghylch pethau sydd i'w gwneud wrth baratoi ar gyfer yr ymchwiliad ac erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid eu gwneud.
(4) Rhaid i berson y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (3) gydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwnnw.
Datganiad o'r ffeithiau cytunedig — ymchwiliadau
14 

(1) Rhaid i'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu ar y cyd baratoi datganiad sy'n cynnwys pa bynnag wybodaeth ffeithiol y gallant gytuno arni ynglŷn â'r mater sy'n destun yr apêl.
(2) Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu sicrhau bod y person penodedig yn cael y datganiad hwnnw 4 wythnos, o leiaf, cyn dyddiad yr ymchwiliad.
Proflenni tystiolaeth —ymchwiliadau
15 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person sydd â hawl i ymddangos mewn ymchwiliad yn bwriadu rhoi tystiolaeth, neu alw tyst i roi tystiolaeth, yn yr ymchwiliad.
(2) Rhaid i'r person, 4 wythnos o leiaf cyn dyddiad yr ymchwiliad, neu ba bynnag adeg arall a gyfarwyddir gan y person penodedig, anfon proflen at y person penodedig o'r dystiolaeth y bwriedir ei rhoi, ynghyd ag unrhyw grynodeb ysgrifenedig sy'n ofynnol.
(3) Rhaid i'r person penodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael proflen tystiolaeth, anfon copi ohoni at yr apelydd, yr Awdurdod Trwyddedu ac at unrhyw berson arall a anfonodd broflen at y person penodedig.
(4) Mae crynodeb ysgrifenedig yn ofynnol os yw'r broflen tystiolaeth dan sylw yn hwy na 1500 gair.
(5) Pan ddarperir crynodeb ysgrifenedig, y crynodeb hwnnw yn unig y caniateir ei ddarllen yn yr ymchwiliad, oni fydd y person penodedig yn cyfarwyddo fel arall.
(6) Pan fo person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen crynodeb o broflen tystiolaeth—
(a) trinnir y broflen tystiolaeth fel pe bai wedi ei rhoi mewn tystiolaeth, oni fydd y person y mae'n ofynnol iddo ddarparu'r crynodeb yn hysbysu'r person penodedig fod y person hwnnw bellach yn dymuno dibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw yn unig; a
(b) gall y person y mae'i dystiolaeth wedi ei chynnwys yn y broflen tystiolaeth fod yn
(c) agored i'w groesholi arni, i'r un graddau â phe bai'r dystiolaeth wedi ei rhoi ar lafar.
(7) Caiff y person penodedig ganiatáu i berson newid neu ychwanegu at broflen tystiolaeth neu grynodeb y person hwnnw, i'r graddau y bo'n angenrheidiol at ddibenion yr ymchwiliad.
(8) Ond os gwneir hynny, rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r ymchwiliad os bydd angen) roi cyfle digonol i bob person arall sy'n ymddangos yn yr ymchwiliad ystyried unrhyw fater neu ddogfen newydd.
(9) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 17.
Gweithdrefn
16 

(1) Ac eithrio pan ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y person penodedig benderfynu ar y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.
(2) Unwaith y bydd gwrandawiad neu ymchwiliad wedi cychwyn, caiff y person penodedig ohirio'r ymchwiliad ar unrhyw adeg.
(3) Y personau sydd â hawl i ymddangos yw—
(a) yr apelydd;
(b) yr Awdurdod Trwyddedu; ac
(c) unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r apêl.
(4) Caiff y person penodedig fynd ymlaen yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos.
(5) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall ymddangos, a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.
(6) Caiff unrhyw berson, sydd â hawl neu ganiatâd i ymddangos, naill ai ymddangos yn bersonol neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
(7) Caiff person sydd â hawl i ymddangos alw tystiolaeth, ond fel arall, mae galw tystiolaeth yn fater i ddisgresiwn y person penodedig.
(8) Ni chaniateir croesholi mewn gwrandawiad, oni fydd y person penodedig o'r farn bod hynny'n ofynnol er mwyn sicrhau archwiliad trylwyr o'r prif faterion.
(9) Os yw'r person penodedig o'r farn bod croesholi yn angenrheidiol, rhaid i'r person penodedig, ar ôl ymgynghori â'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, ystyried a ddylid cau'r gwrandawiad ac agor ymchwiliad yn ei le.
(10) Caiff person sydd â hawl i ymddangos mewn ymchwiliad groesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth, ond fel arall, mae croesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad yn fater i ddisgresiwn y person penodedig.
(11) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig, tystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall a ddaw i law oddi wrth unrhyw berson, cyn neu yn ystod gwrandawiad neu ymchwiliad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad.
(12) Os yw'r person penodedig yn penderfynu felly, ceir cynnal ymchwiliad neu wrandawiad yn breifat, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
(13) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 17.
Pwerau i wahardd personau, tystiolaeth etc
17 

(1) Os bydd y person penodedig, yn ystod unrhyw gam mewn gwrandawiad neu ymchwiliad, o'r farn bod unrhyw un o'r rhesymau ym mharagraff (2) yn gymwys, caiff y person penodedig rwystro unrhyw berson rhag—
(a) rhoi tystiolaeth;
(b) croesholi person sy'n rhoi tystiolaeth; neu
(c) gyflwyno unrhyw fater.
(2) Y rhesymau yw—
(a) na ddarparwyd y dystiolaeth neu'r mater o fewn y terfynau amser perthnasol;
(b) nad oedd y mater, rywfodd arall, wedi ei darparu yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn neu'n unol ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd neu ofyniad a wnaed gan y person penodedig o dan y rheoliadau hyn;
(c) bod y dystiolaeth neu'r mater yn amherthnasol neu'n ailadroddus; neu
(ch) bod y person yn ymddwyn, neu wedi ymddwyn, yn aflonyddgar yn y gwrandawiad neu ymchwiliad.
(3) Heb leihau effaith y pwerau ym mharagraff (1), os bydd unrhyw berson yn ymddwyn yn aflonyddgar yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, caiff y person penodedig—
(a) wneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n ymadael;
(b) atal y person hwnnw rhag cymryd rhan yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad; neu
(c) caniatáu i'r person hwnnw aros, neu gymryd rhan, yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, ond ar amodau penodedig yn unig.
(4) Pan fo'r person penodedig yn gwrthod caniatáu, o dan baragraff (3), i berson roi tystiolaeth ar lafar, caiff y person hwnnw gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall mewn ysgrifen i'r person penodedig cyn cau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad (ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (1)).
Darpariaethau ychwanegol ynghylch tystiolaeth a chostau
18 

(1) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau) yn gymwys, gyda'r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), i unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn, fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau o dan yr adran honno.
(2) Yr addasiadau yw—
(a) rhaid darllen y cyfeiriad at “the person appointed to hold the inquiry” fel pe bai'n gyfeiriad at y person penodedig;
(b) rhaid darllen y cyfeiriad at “local authority” yn is-baragraff (b) ar is-adran (2) fel pe bai'n gyfeiriad at yr Awdurdod Trwyddedu;
(c) rhaid darllen y cyfeiriad at “such local authority” yn is-adran (4) fel pe bai'n gyfeiriad at yr Awdurdod Trwyddedu;
(ch) rhaid darllen y cyfeiriadau at “the Minister causing an inquiry to be held” fel pe baent yn gyfeiriadau at y person penodedig.
(3) Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (gorchmynion ynglŷn â chostau pan na chynhelir gwrandawiad nac ymchwiliad) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (3), rhaid i gostau gwrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan Weinidogion Cymru.
Ymchwiliadau cyfamserol neu gyfunol
19 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a) pan fo apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng ymchwiliad, a
(b) yn achos rhyw fater arall y bo'n ofynnol, neu'r awdurdodwyd, ei wneud yn destun ymchwiliad (“yr ymchwiliad arall”), pan yw'n ymddangos i'r awdurdod neu'r awdurdodau perthnasol fod y materion yn gytras i'r fath raddau nes dylid eu hystyried ar y cyd.
(2) Caiff yr awdurdod neu'r awdurdodau perthnasol gyfarwyddo bod y ddau ymchwiliad i'w gael eu cynnal yn gyfamserol neu'u cyfuno fel un ymchwiliad.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr awdurdod neu'r awdurdodau perthnasol” yw'r person penodedig, neu, os swyddogaeth i ryw berson arall yw achosi cynnal yr ymchwiliad arall, y person penodedig a'r person arall hwnnw yn gweithredu ar y cyd.
Diogelwch gwladol — ymchwiliadau
20 

(1) Yn achos unrhyw apêl benodol, os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn ardystio y byddai, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn groes i fuddiannau diogelwch gwladol—
(a) pe bai ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gynnal, neu
(b) pe bai unrhyw aelodau o'r cyhoedd, neu unrhyw bersonau penodedig, yn cael mynediad i'r ymchwiliad neu ryw ran benodedig ohono,
rhaid peidio â chynnal yr ymchwiliad neu, yn ôl fel y digwydd, peidio â chaniatáu mynediad i aelodau'r cyhoedd, neu'r personau hynny i'r ymchwiliad neu i'r rhan honno o'r ymchwiliad.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “penodedig” yw—
(a) penodedig yn y dystysgrif, neu
(b) o ddisgrifiad a bennir yn y dystysgrif.
RHAN 6 Penderfynu'r apêl yn derfynol
Penderfynu apelau a benderfynir drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig
21 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.
(2) Yr hysbysiad apêl dilys a'r dogfennau sy'n mynd gyda'r hysbysiad hwnnw, ynghyd ag unrhyw sylwadau neu esboniadau a wnaed gan yr apelydd ac a gafwyd o dan reoliad 10(1)(b) a (4) o fewn y terfyn amser perthnasol, yw'r hyn a gynhwysir yn sylwadau'r apelydd mewn perthynas â'r apêl.
(3) Y sylwadau a gafwyd o dan reoliad 10(1)(a) o fewn y terfyn amser perthnasol, ynghyd ag unrhyw esboniadau a wnaed gan yr Awdurdod Trwyddedu ac a gafwyd o dan reoliad 10(4) o fewn y terfyn amser perthnasol, yw'r hyn a gynhwysir yn sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â'r apêl.
(4) Wrth benderfynu'r apêl, caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylw neu esboniad a wneir gan yr apelydd neu gan yr Awdurdod Trwyddedu, ac eithrio sylwadau'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu fel y'u pennir ym mharagraffau (2) a (3).
Penderfynu'r apêl — cyffredinol
22 

(1) Wrth benderfynu apêl yn erbyn penderfyniad, caiff y person penodedig—
(a) gwrthod yr apêl;
(b) caniatáu'r apêl a diddymu'r penderfyniad yn gyfan gwbl neu'n rhannol;
(c) pan yw'n diddymu penderfyniad o dan is-baragraff (b), gyfarwyddo'r Awdurdod Trwyddedu—
(i) i ganiatáu trwydded forol; neu
(ii) i ganiatáu trwydded forol ar ba bynnag delerau, neu'n ddarostyngedig ba bynnag amodau a bennir gan y person penodedig.
(2) Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu o'r penderfyniad, mewn ysgrifen.
RHAN 7 Darpariaethau atodol
Methiant i weithredu
23 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r apelydd neu'r Awdurdod Trwyddedu wedi methu, o fewn y terfynau amser perthnasol, â chymryd unrhyw gam neu ddarparu unrhyw wybodaeth, sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y person penodedig, ar ôl rhoi rhybudd i'r apelydd ac i'r Awdurdod Trwyddedu o'i fwriad i wneud hynny, benderfynu apêl, er gwaethaf y methiant i gymryd y cam hwnnw neu ddarparu'r wybodaeth honno.
Cyflenwi dogfennau etc
24 

(1) Rhaid i unrhyw beth y mae'n ofynnol, neu y caniateir, ei gyflenwi o dan y Rheoliadau hyn (gan gynnwys unrhyw sylwadau a wneir) fod mewn ysgrifen .
(2) Os yw dogfen a gyflenwir yn cyfeirio at ddogfen arall, rhaid cyflenwi copi o'r ddogfen honno yn ogystal.
(3) Ceir cyflenwi yn electronig unrhyw beth y mae'n ofynnol, neu y caniateir, ei gyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a) os gall y derbynnydd gael mynediad iddo;
(b) os yw'r wybodaeth a gynhwysir ynddo ar gael i'r derbynnydd i'r un graddau, o leiaf, ag y byddai, pe bai'r wybodaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf brintiedig;
(c) os yw'n ddigon parhaol i'w ddefnyddio i gyfeirio ato yn ddiweddarach; ac
(ch) os yw'r derbynnydd yn cydsynio iddo gael ei gyflenwi yn electronig.
(4) Rhaid i'r dogfennau a chopïau —
(a) a gyflenwir gan yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu gael eu cyflenwi'n ddyblyg;
(b) a gyflenwir gan unrhyw berson arall, gael eu cyflenwi'n driphlyg
(5) Ond nid yw paragraff (4) yn gymwys i ddogfen neu gopi—
(a) y mae'n ofynnol ei chyflwyno, neu ei gyflwyno, ynghyd â hysbysiad apêl o dan reoliad 7(1)(ch) a (2), neu
(b) a gyflenwir yn electronig.
(6) Os oes unrhyw ddogfen wedi ei chyflenwi eisoes at ddibenion apêl, a'r ddogfen honno ar gael yn hwylus i'r holl bartïon, caiff y person penodedig gyfarwyddo nad oes rhaid ei chyflenwi drachefn.
Estyn terfynau amser perthnasol, a darparu gwybodaeth neu gopïau ychwanegol
25 

(1) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, mewn amgylchiadau eithriadol, estyn unrhyw derfyn amser.
(2) Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg—
(a) gwneud yn ofynnol gyfnewid gwybodaeth bellach,
(b) cynnig cyfleoedd pellach i wneud sylwadau,
(c) gwneud yn ofynnol fod unrhyw berson yn darparu gwybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r apêl, neu gopïau ychwanegol o unrhyw ddogfen,
os yw'r person penodedig o'r farn bod hynny'n angenrheidiol er mwyn penderfynu'r apêl.
(3) Rhaid i berson sydd dan ofyniad i wneud sylwadau pellach, neu y cynigir cyfle iddo wneud hynny, o dan baragraff (2), gydymffurfio ag unrhyw derfyn amser a bennir gan y person penodedig.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2011