
2011 Rhif 923 (Cy.132)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
LLYGRU MOROL, CYMRU
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau ) (Cymru) 2011
Gwnaed 22 Mawrth2011
Yn dod i rym 6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108 o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Cymhwyso
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru—
(a) yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer (a rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” yn unol â hynny);
(b) yn awdurdod gorfodi ar ei gyfer (a rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod gorfodi” yn unol â hynny).
Apelau yn erbyn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol
3 

(1) Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 72 o Ddeddf 2009 (hysbysiad yn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol neu estyn cyfnod ataliad) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Atelir hysbysiad, y cyfeirir ato ym mharagraff (1) sy'n amrywio trwydded forol, mewn perthynas â'r amrywiad hwnnw, hyd nes penderfynir yr apêl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf atal unrhyw hysbysiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1), yn gyfan gwbl neu'n rhannol, hyd nes penderfynir yr apêl.
Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau stop a hysbysiadau diogelwch brys
4 

(1) Caiff person y dyroddwyd iddo unrhyw un o'r hysbysiadau ym mharagraff (2) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Yr hysbysiadau yw—
(a) hysbysiad cydymffurfio;
(b) hysbysiad adfer;
(c) hysbysiad stop;
(ch) hysbysiad diogelwch brys.
(3) Atelir hysbysiad cydymffurfio ac unrhyw ofyniad mewn unrhyw hysbysiad o'r fath, hyd nes penderfynir apêl yn erbyn yr hysbysiad.
(4) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf atal unrhyw hysbysiad adfer, hysbysiad stop neu hysbysiad diogelwch brys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, hyd nes penderfynir yr apêl.
Apelau — darpariaethau pellach
5 

(1) Mewn unrhyw apêl, mae'r baich prawf ar yr awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi, (fel y bo'n briodol), ac—
(a) os yw'r apêl yn ymwneud â'r honiad o gyflawni tramgwydd, rhaid i'r awdurdod brofi y cyflawnwyd y tramgwydd, y tu hwn i amheuaeth resymol, a
(b) mewn unrhyw achos arall, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf benderfynu'r safon o brawf.
(2) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a) tynnu'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo yn ôl;
(b) cadarnhau'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo;
(c) amrywio'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo;
(ch) cymryd unrhyw gamau y gallai'r awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi (fel y bo'n briodol) eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gofyniad neu'r hysbysiad;
(d) cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at yr awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi (fel y bo'n briodol).
Adfer symiau taladwy
6 

(1) Rhaid talu unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf o fewn 56 diwrnod ar ôl y penderfyniad hwnnw.
(2) Bydd unrhyw swm o'r fath nas telir o fewn y cyfnod hwnnw —
(a) yn adenilladwy fel dyled sifil;
(b) yn adenilladwy ar orchymyn llys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.
Jane Davidson
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2011