
2011 Rhif 885 (Cy.129)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011
Gwnaed 21 Mawrth 2011
Yn dod i rym 31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Dyma'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan adran 28(6) o'r Ddeddf honno sy'n rhagnodi'r swm sylfaenol a'r swm uwch at ddibenion yr adran honno.

Yn unol ag adran 26(1) o'r Ddeddf honno gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(6) o Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011;
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004;
 ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, at ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004, rhagnodir y swm sylfaenol yn £4,000 a'r swm uwch yn £9,000.
Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig ar gyfer cyrsiau penodedig
4 
At ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004 rhagnodir y swm sylfaenol yn £2,000 a'r swm uwch yn £4,500 yn yr achosion a ganlyn:
(a) blwyddyn academaidd derfynol cwrs os yw'n ofynnol i'r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—
(i) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;
(ch) mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor, blwyddyn academaidd—
(i) pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2011