
2011 Rhif 865 (Cy.127)
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011
Gwnaed 17 Mawrth 2011
Yn dod i rym 6 Ebrill 2011

Gwneir y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 15(8), a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, o ran cosbau a roddir gan—
(a) awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru,
(b) Asiantaeth yr Amgylchedd o ran methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru, ac
(c) Gweinidogion Cymru.
Ymgynghorwyd â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd ac mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymreig y Cyngor Cyfiawnder a Thribiwnlysoedd, yn unol ag adran 44 o Ddeddf y Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.

Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 15(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011;
(b) deuant i rym ar 6 Ebrill 2011; ac
(c) maent yn gymwys o ran cosbau a roddir gan—
(i) awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;
(ii) Asiantaeth yr Amgylchedd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru; a
(iii) Gweinidogion Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
 ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 15(1) o'r Ddeddf mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad o dan adran 14(1) neu (3) o'r Ddeddf i ddarparu gwybodaeth;
 ystyr “hysbysiad o gosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad gan awdurdod o dan adran 15(3) o'r Ddeddf sy'n rhoi cosb i berson sy'n methu â darparu gwybodaeth a bennir mewn hysbysiad gorfodi yn y cyfnod penodedig.
Yr hawl i apelio
3 
Caiff person y rhoddwyd cosb iddo gan hysbysiad o gosb apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gosb.
Y seiliau dros apelio
4 
At ddibenion rheol 22(2)(g) o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009, y seiliau dros apelio yw—
(a) bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad o gosb wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c) bod swm y gosb yn afresymol;
(ch) unrhyw reswm arall.
Y weithdrefn
5 
Rhaid i'r canlynol fynd gyda hysbysiad o apêl o dan reol 22 o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (yn ychwanegol at fod yn rhaid i'r hysbysiad gydymffurfio â gofynion y Rheolau hynny)—
(a) copi o'r hysbysiad gorfodi;
(b) copïau o unrhyw sylwadau a wnaed o dan adran 15(2)(c) o'r Ddeddf;
(c) copi o'r hysbysiad o gosb.
Effaith apêl
6 
Rhaid i awdurdod sy'n cael hysbysiad o apêl gan berson y mae wedi rhoi cosb iddo beidio â chymryd camau i adennill y gosb ar ffurf dyled hyd oni ddyfernir ar yr apêl neu hyd oni chaiff ei thynnu'n ôl.
Dyfarnu ar apêl
7 
Pan benderfynir ar apêl o dan reoliad 3, rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—
(a) cadarnhau'r gosb;
(b) lleihau'r gosb; neu
(c) dileu'r gosb.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2011